Neuadd Henllan

Mae Neuadd Henllan wedi’i lleoli ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt. Mae maes y sioe, gyda’i gyfleusterau digymar at sawl defnydd dan do yn ogystal â defnydd awyr agored, yn ganolfan boblogaidd bellach ar gyfer cynadleddau, seminarau, derbyniadau preifat a gweithgareddau eraill gydol y flwyddyn ac os ydych chi, neu’ch mudiad, yn cynllunio digwyddiad, neu os ydych ond yn ymweld â Chanolbarth Cymru, fe gewch fod Neuadd Henllan yn lle delfrydol a gorffwysol i aros.
Mae Neuadd Henllan yn mwynhau golygfa aruchel o faes y sioe a’r wlad o gwmpas ac yn cynnig llety cysurus a bwyd da, sy’n cael ei gwblhau gan wasanaeth effeithlon, proffesiynol am brisiau gwerth eich arian. Yn ogystal â bod wedi’i lleoli’n berffaith ar gyfer chwilota cefn gwlad hardd Canolbarth Cymru a bod o fewn cyrraedd rhwydd i arfordir Bae Ceredigion, mae golff, pysgota, marchogaeth, beicio, llwybrau glannau afonydd a gwylio adar (rydym ynghanol gwlad y Barcut Coch yma) i gyd i’w cael gerllaw.
Mae Neuadd Henllan yn gallu darparu ar gyfer arhosiad am noson neu fwy i unigolion neu grwpiau o hyd at 70 o bobl a allai fod yn mynychu derbyniad ar faes y sioe neu sydd ag eisiau canolfan yn yr ardal.
Mae rhai o’r ystafelloedd wedi’u huwchraddio’n ddiweddar i safon uchel iawn, ac yn cynnig cyfleusterau en-suite. Mae’r 2 ystafell bâr a’r 2 ystafell sengl sydd wedi’u hadnewyddu yn cynnig lefel ragorol o gysur gyda’u teledu preifat eu hunain. Mae gweddill y llety’n cynnwys 18 ystafell â gwelyau gefell a 7 gyda phedwar gwely. Mae pob un o’r ystafelloedd â gwres canolog ac mae iddynt gyfleusterau ymolchi, pwyntiau eillio trydan a wardrobau. Mae cyfleusterau cawod sy’n cael eu rhannu ar gael hefyd.
Mae’r ystafell fwyta’n gweithredu system helpu’ch hunan a gellir darparu brecwast llawn, cinio a phryd gyda’r nos drwy drefniant. Y ffordd orau o ddisgrifio ein prydau bwyd yw “coginio cartref Cymreig da gyda’r bwydydd yn cael eu cyflenwi’n lleol” ac mae bar cyfyngedig ar gael hefyd. Mae yna lolfa gysurus gyda theledu lliw.
Rydym yn darparu hefyd ar gyfer partïon priodas sydd wedi archebu naill ai’r Pafiliwn Rhyngwladol neu Bafiliwn Trefaldwyn ar Faes y Sioe.
Er mwyn archebu lle, cael y prisiau a mwy o wybodaeth ffoniwch Malcolm neu Debbie Grainger y Rheolwyr Preswyl ar 01982 552 116 os gwelwch yn dda.
| Edrychwch ar rai o'n hystafelloedd Mae rhai o’r ystafelloedd wedi cael eu huwchraddio i safon uchel iawn, gan gynnig cyfleusterau en-suite (cliciwch ar y lluniau i weld mwy) | ![]() | ![]() |
| Manylion Cyswllt Neuadd Henllan: Mr & Mrs Grainger Neuadd Henllan Faes Sioe Frenhinol Cymru Llanelwedd Llanfair-ym-Muallt LD2 3TA | Ffôn: 01982 552 116 Fax: 01982 552 116 E-Bost: neuaddhenllan@btconnect.com Gweld map o'r lleoliad | |
| NODER Y DYLID NEILLTUO LLE AR GYFER GŴYL TYDDYN A GARDD FRENHINOL CYMRU, SIOE FRENHINOL CYMRU A FFAIR AEAF Y SIOE FRENHINOL DRWY’R BRIF SWYDDFA(01982 553683). Ffôn: 01982 55 36 83 / Fax: 01982 55 35 63 / E-Bost: requests@rwas.co.uk | ||