Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Croeso

Croeso

Gŵyl Tyddyn a Gardd - 15 & 16 Mai 2010


Dros 22,000 o ymwelwyr yn gweld yr Ŵyl Tyddyn a Gardd


Titan y Robot yn
difyrru’r dorf er
gwaetha’r glaw!!

Gallai’r freuddwyd honno o le eidylaidd yn y wlad gydag ychydig o ieir a moch, pâr o gychod gwenyn, rhywfaint o ddefaid a geifr efallai neu hyd yn oed lama neu ddau, ddod yn wir ichi yn dilyn ymweliad â Gŵyl eleni.

’Does yr un lle tebyg i’r Ŵyl am annog y rheini gydag awch am ‘Y Bywyd Da’ i gymryd y cam tyngedfennol.  Mae’r Ŵyl wedi’i chymhwyso ar gyfer y tyddynnwr – a’r garddwr – ac mae popeth y byddwch ag eisiau gwybod amdano i gychwyn ar fywyd bach gwledig i’w gael yno, yn cynnwys arbenigwyr i ateb eich cwestiynau i gyd.  Mae yna hyd yn oed sioe deithiol eiddo ble gellwch chi ddarganfod yr union le i’w brynu neu’i rentu i ddod yn dyddynnwr.



Disgwylir i’r Ŵyl ddenu dros 25,000 o ymwelwyr ac mae’r paratoadau ar fynd ers tro.  Bydd sawl nodwedd newydd yn ymddangos y tro hwn, yn eu plith gystadleuaeth sgrialu-yrru gyffrous a chystadleuaeth gwaith gof a phedoli, rhan o raglen o arddangosiadau a drefnir gan Gymdeithas Pedolwyr a Gofaint Cymru.


Mae Sioe Ddofednod Wanwyn newydd yn cael ei chyflwyno yn yr Ŵyl hefyd, mewn partneriaeth â Chlwb Dofednod Cymru. Mae’r Cyfarwyddwr, Dr Fred Slater, yn rhagweld mai hon fydd yr Ŵyl orau ers ei chyflwyno yn Llanelwedd.  “Bydd yn ddifyr ac yn addysgol ac yn chwa o awyr iach y wlad i ymwelwyr,” meddai.

no dogs allowedAg eithrio cŵn tywys, anogir ymwelwyr i beidio dod â’u cŵn i’r Gŵyl Tyddyn a Gardd, ond os ydyw'n angenrheidiol i wneud, rhaid cawd cŵn ar dennyn bob amser ac ni chânt ddod i mewn i'r adeiladau. Peidiwch â gadel cŵn mewn ceir.



top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun