Croeso
Gŵyl Wanwyn 2012 - 19 & 20 Mai, 9yb to 6yp
"Y Prif ddigwyddiad ar gyfer cadw tyddyn, garddio a byw’n gynaliadwy
Wrth edrych ymlaen at Ŵyl Wanwyn 2012, dywedodd y Cadeirydd Dr Fred Slater:
“Fel y gellwch ddychmygu mae’n cymryd llawer iawn o waith i drefnu’r Ŵyl yma ond mae pawb sydd a wnelo â hi yn gyffrous a brwdfrydig ynghylch eu hadran yn 2012, pob un yn ymdrechu i roi’r profiad gorau posibl o’r Ŵyl i’n hymwelwyr. Yr hyn sy'n eglur yw y bydd rhywbeth newydd a chyffrous rownd bron pob cornel o bob adran - yn union fel cefn gwlad go iawn!” | Fideo byr am yr hyn sydd gan Gŵyl Wanwyn i’w chynnig |
Eleni rydym wedi penderfynu galw’r digwyddiad yn Ŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru yn swyddogol gyda’r is-bennawd “y prif ddigwyddiad ar gyfer cadw tyddyn, garddio a byw’n gynaliadwy”. Mewn geiriau eraill byddwn yn dal i gyflenwi ymwelwyr â’r cyfan y maent wedi dod i’w ddisgwyl gan y penwythnos yma ym mis Mai ond, heb fynd yn rhy fawr, roi hyd yn oed yn fwy i ymwelwyr am eu tâl mynediad.Rydym yn gobeithio y bydd y penwythnos yma’n ysbrydoli o leiaf rai ohonoch i ddod yn fwy cyfrannog yn sgiliau cefn gwlad pa un ai’n wenyn, dofednod, defaid, geifr neu arddio (i grybwyll ond ychydig) ac i roi hwb ymlaen ichi rydym yn darparu llwybr Dechrau Arni gyda desg wybodaeth i’ch arwain at y sgwrs/ arddangosiad/cyngor sydd ei angen arnoch. Bydd cornel “hawl i holi garddwyr” yn y Neuadd Flodau ac eleni bydd adran awyr agored (ond dan do) gerllaw’r brif Neuadd i gynnig yr ychydig bach mwy hwnnw ar gyfer garddwyr brwd.
Bydd dosbarthiadau newydd mewn nifer o adrannau da byw, yn cynnwys defaid, geifr angora, moch a gwartheg ac os gwnaethoch golli parêd y gwartheg yn y prif gylch yn 2011 yna fe wnaethoch golli’r hyn yr oedd llawer yn meddwl ei fod yn un o uchafbwyntiau’r Ŵyl. Yn 2012 bydd gennym raglen prif gylch gyffrous eto, o hebogiaid i hen beiriannau.Ar ôl y gwelliannau diweddar a wnaed i’r ddarpariaeth arlwyo ym Mhafiliwn Trefaldwyn bydd y lleoliad hwn nid yn unig yn darparu arlwyaeth yn eistedd ar gyfer yr Ŵyl ond bydd yn cael ei ddefnyddio hefyd fel estyniad i Arddangosfa Byw’n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd, sy’n fythol-boblogaidd.
Dywedir wrthym fod gan yr Ŵyl Wanwyn un o’r arddangosfeydd gorau o fridiau moch a welwch chi yn unrhyw sioe yn y Deyrnas Unedig.
Tra byddwch yn yr Ŵyl rhaid ichi alw heibio’r prif sioe gŵn agored ac am y tro cyntaf rydym yn gobeithio cael dawnsio bedwen Fai ar grîn y pentref.
Sponsorship
If you are thinking about sponsorship opportunities, we can tailor a package to suit your business marketing needs. Find out more.
Other than Guide Dogs, visitors are encouraged not to bring their dogs to the Smallholder & Garden Festival, but if it is essential to do so dogs must be kept on a lead the whole time and are restricted from entering the buildings. Please do not leave dogs in cars. | Follow us on: | ![]() |




