Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Atyniadau 2008 > Sioe Gŵn

Sioe Gŵn


Y Sioe Gŵn yw un o’r prif atyniadau yn yr Ŵyl Tyddyn a Gardd. Pob blwyddyn, mae’r Sioe Gŵn yn cynnal ei safonau uchel arferol, gyda nifer fawr o wahanol fridiau’n cael eu dangos, gan ddarparu adloniant rhagorol i’r cyhoedd. Paham na ddewch chi draw i weld eich hoff frîd o gi’n cael ei feirniadu.

Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe, dydd Sadwrn 17eg Mai, bydd cŵn Hela’n cael eu beirniadu gyda bridiau o’r grwpiau  Cŵn Adara, Daeargwn a Helgwn yn cael eu harddangos. Ar yr ail ddiwrnod, dydd Sul 18fed Mai, bydd cŵn heb fod yn rhai hela yn cael eu beirniadu gyda bridiau o’r grwpiau Arffed, Gweithio, Bugeiliol a Phob Pwrpas yn cael eu harddangos.

Prif feirniad yr Adran Gŵn eleni yw Mrs Christina Chapman. Bydd y beirniadu’n cychwyn am 10.00am ar y ddau ddiwrnod a rhaid i bob ci sy’n cael ei arddangos fod wedi’i gofrestru gan y Kennel Club. Ni cheir arddangos yr un ci o dan 6 mis oed ar ddiwrnod cyntaf y sioe. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw dydd Llun 14eg Ebrill.

Y llynedd cyflawnodd y Sioe Gŵn un o’i phrif amcanion, sef cyfartaledd o bum ci yn cynnig ym mhob dosbarth, a’r flwyddyn nesaf, gyda lwc bydd cais yn cael ei gyflwyno am statws Prif Sioe.

I gael rhaglen neu unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â’r sioe gŵn a fyddech mor garedig â chysylltu ag:

 

Ysgrifennydd yr Adran Gŵn, Mr Denys Simpson: Ffôn: 01633 859125
neu
Ysgrifennydd Cynorthwyol yr Adran Gŵn, Mrs Julie Howells: Ffôn: 01269 841356

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun