Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Atyniadau 2009 > Gŵyl Ddawns Geltaidd

Gŵyl Ddawns Geltaidd

Eleni bydd Gŵyl Ddawns yn yr Ŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru am y tro cyntaf. Thema’r Ŵyl Ddawns yw Dawns Geltaidd a bydd yn cynnwys dawnsiau o’r traddodiadau Albanaidd, Gwyddelig, Cernywaidd, Cymreig a Llydewig. Nid yw disgyblaethau eraill wedi’u cadw allan a bydd yna dimau o Forys-ddawnswyr, dawnswyr y Glocsen, dawnswyr Playford a dawnswyr Armenaidd.

Mae Rhaglen yr Ŵyl Ddawns wedi’i chynllunio i apelio at bawb, pa un a ydych yn dymuno bod yn rhan o’r gynulleidfa yn unig neu’ch bod yn methu peidio â cholli’r cyfle i roi cynnig arni….bydd croeso mawr ichi ymuno. Bydd yna nifer o weithdai sy’n darparu ar gyfer y rheini a fyddai’n hoffi rhoi prawf ar eu sgiliau, a Dawns Albanaidd a Ceilidh ar y nos Sadwrn.  Mae hyn yn ffordd ardderchog o gadw’n heini, yn gorfforol ac yn feddyliol heb sylweddoli’r boen ac yn gyfle i gyfarfod â hen gyfeillion ac i wneud rhai newydd.

Bydd ‘Celtic Links’, sydd wedi’u lleoli yn Llanfair ym Muallt, yn arwain gweithdy Dawnsio Gwerin Albanaidd sy’n addas i ddechreuwyr a rhai sydd am wella. O’r Alban mae gennym dîm arddangos ‘Thornhill’ gyda band a phibyddion yn cyfeilio iddynt. Nid yn unig y bydd ‘Thornhill’ yn diddanu gydag arddangosiadau dawns gwych ond bydd eu harweinydd Sinclair Barbour yn cynnal Dosbarth Dawnsio Gwerin Albanaidd Uwch.  Bydd y dawnswyr hynny sy’n gyfarwydd â Dawnsio Gwerin Albanaidd yn gallu mwynhau’r ddawns Nos Sadwrn dan arweiniad band ‘Thornhill’.


 Firestone yn perfformio yn yr ha

Mae Nancy Warren o Bredwardine yn ddawnswraig Dawnsio Gwerin Armenaidd. Morys-ddawnsio a Dawnsio’r Glocsen fydd cyfraniad Morys-Ddawnswyr Fforest y Ddena, bydd tîm merched y ‘Wimberry Cloggers’ yn perfformio Dawns y Glocsen a bydd ‘Something Afoot’ o Raeadr yn cyflwyno Dawnsio’r Glocsen Cymreig.


Bydd Annette Davies o Aberystwyth yn cynnal gweithdy i’r rheini sydd â diddordeb mewn Dawnsio Llydewig a Ffrengig a bydd Richard Mason o Firestone (ymhlith eu harbenigedd mae Dawnsio’r Glocsen Appalachaidd) yn cynnal gweithdy ac yn galw mewn Ceilidh ar y nos Sadwrn.  ’Does dim angen gwybod unrhyw beth am ddawnsiau ceilidh gan y bydd Richard a’i gyfeillion yn dysgu dawnsiau ac yn galw, fel bod pawb sy’n bresennol yn gallu llwyr fwynhau’r dawnsio.

Bydd rhai o’r timau arddangosfeydd yn dawnsio ar amrywiol safleoedd ar faes y sioe ac ar brynhawn Sadwrn bydd pob un o’r timau arddangos yn perfformio yn y Bandstand, gan roi cyfle i ymwelwyr eistedd ac ymlacio yn yr heulwen a mwynhau’r adloniant di-dâl.

Mae rhaglen yr Ŵyl yn darparu amrywiaeth eang o Ddawnsiau Gwerin ac mae croeso i bawb fwynhau’r cyfraniad newydd hwn at y penwythnos drwy wylio’n unig neu drwy gymryd rhan.

Cymerwch olwg hefyd ar:- www.builthwellsdancefestival.org

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun