Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Atyniadau 2008 > J.R.C.S. Falconry

J.R.C.S. Falconry

 



Mae tîm arddangos J.R.C.S. Falconry yn cyflwyno profiad cyffrous …difyr…ac addysgiadol.

Cewch gyfarfod â Jan a’i hebogwyr gyda’i adar ysglyfaethus:  Y Fintai Heboga Elisabethaidd, gyda merched ar gefn ceffyl yn marchogaeth wysg eu hochr.  Cewch weld y gwisgoedd gwych o waith llaw, a’r adar yn cael eu hedfan yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’r arddangosfa statig yn cynnwys “Q” y Fwltur Gycyllog, “Zulu” yr Hebog Harris, “Sas” yr Hebog Llwyd, “Talia” y Dylluan Fawr Ewrasaidd, “Cklas” Eryr Stepdir Rwsia, a brenhines yr adar ysglyfaethus “Ezrie” yr Eryr Euraid, gyda llawer mwy.  Cewch weld un o’r arddangosfeydd statig mwyaf trawiadol a welwyd erioed, gyda dros 25 o wahanol rywogaethau o adar, a hebogwyr bob amser wrth law i ateb cwestiynau neu i roi sgyrsiau byrfyfyr am yr adar.  Rydym yma trwy gydol yr Ŵyl.

Cewch brofi’r arddangosfeydd hedfan mwyaf cyffrous ac anhygoel.  Arbenigedd Jan yw cyfranogiad y gynulleidfa. Gan hedfan hyd at 11 o adar, gyda sylwebaeth frwdfrydig a siriol, fe welwch yr hebogiaid yn hedfan drwy’r coed dynol, teimlo cyflymder y gweilch wrth iddynt hedfan yn agos, gwylio’r tylluanod tawel yn hedfan yn isel dros bennau’r plant a hyd yn oed gael y cyfle i gael y fwltur yn bwyta o’ch llaw, sydd bob amser yn atyniad poblogaidd!

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun