Meirion Owen a’r Quack Pack

Mae Meirion a’r Quack Pack yn falch o fod yn dychwelyd i Ŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru 2008.
Meirion, gyda’i ddiddordeb oes mewn cŵn defaid a hyfforddi, yw’r drydedd genhedlaeth i gymryd rhan mewn treialon cŵn defaid. Bu’n cystadlu mewn treialon ers yn ifanc ac mae wedi cael cryn lwyddiant mewn cystadlaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac mae’n gyn-Bencampwr Cymreig.
Bydd ei fab, Iestyn, y mae Meirion yn gobeithio y bydd yn dilyn camre’r teulu, yn ei gynorthwyo yn y Sioe.
Mae Meirion, ei gŵn a’i hwyaid yn ymddangos yn rheolaidd ar Deledu a Radio. Mae’n teithio’n helaeth i arddangos ac mae wedi beirniadu ar y Cyfandir, ac yng Nghanada, America a’r Deyrnas Unedig.
Gan ddefnyddio cyfuniad o orchmynion geiriol a chwibanog bydd Meirion yn arwain ei Border Collies o’r enw Tim, Rob, Jess a Glen i lywio’r ‘Quack Pack’ cydweithredol, ac weithiau heb fod mor gydweithredol, o amgylch cwrs sy’n cynnwys tyneli, sleidiau a chorlannau.
Mae’r Hwyaid Indian Runner, sy’n apelio at y gynulleidfa ar unwaith ac sydd ag ynni di-ben-draw, yn awyddus i blesio ym mhob perfformiad.

Yn ystod ei arddangosfa, bydd Meirion yn annog cyfranogiad y gynulleidfa, o’r plant i’r oedolion, gyda sylwebaeth ddoniol, addysgiadol ac addysgol.
Clustfeiniwch am y gorchmynion i’r cŵn ‘Come Bye’, ‘Away’, ‘Stand’ a ‘Walk’.
Ar wahân i weithio gyda’i gŵn mae Meirion yn brysur yn trefnu ‘Pencampwriaethau Cŵn Defaid y Byd’ a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru ar Diroedd Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2008.