Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Atyniadau 2009 > Cadw Gwenyn

Cadw Gwenyn



Yng Ngŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru 2008, am y tro cyntaf, roedd Cymdeithas Gwenynwyr Aberhonddu a Maesyfed (B&RBKA) ar y cyd â Chymdeithas Gwenynwyr Cymru (WBKA) yn hybu cipolwg cyffrous ac amrywiol ar y gelfyddyd a’r wyddor o gadw gwenyn.

Wedi’i lleoli ar falconi’r Neuadd Flodau urddasol, roedd y stondin mwy ei maint, yn cynnwys cwch gwenyn arsylwi sy’n caniatáu i’r ymwelydd archwilio calon cymuned o wenyn yn gwbl ddiogel. Roedd gwirfoddolwyr ar gael i dynnu sylw at wahanol ymddygiad y gwenyn ac at y gwahanol brosesau sy’n mynd ymlaen, ac roedd yna hwyl fawr i’w gael yn ‘canfod y frenhines’.

Dangosom ni ddetholiad o DVDau ar amrywiol agweddau ar gadw gwenyn, a fe wnaethom gwahodd pob un ohonoch i chwarae ein cwis gwenyn rhyngweithiol, sy’n sicr o brofi eich gwybodaeth am wenyn i’r eithaf.

Fe wnaethom arddangos hefyd y gelfyddyd o gydosod cychod gwenyn pecyn fflat yn barod i’w defnyddio yn y Gwanwyn. Roedd gwenynwragedd yn ogystal â gwenynwyr o bob oed yn cymryd rhan yn y gwaith hwn, tystiolaeth, yn y lle cyntaf, fod merched yn gallu gwneud DIY, ac yn ail y gall fod yn waith cymdeithasol, di-straen a hwyliog (ac yn bendant yn haws na dodrefn!). Os nad DIY yw eich cryfder, roedd ein stondin yn orlawn o ffotograffau a gwybodaeth ynghylch gwenyn, cadw gwenyn a digwyddiadau yr ydym yn eu trefnu bob blwyddyn. Roedd gennym daflenni a ryseitiau i’w rhannu i’r oedolion a sticeri ar gyfer ein hymwelwyr iau. Yn bwysicaf oll, roedd gennym ddewisiadau o fêl lleol i’w flasu.

Wedi’i staffio gan wenynwyr o bob rhan o Gymru, fe wnaethom mwynhau eich cyfarfod, ac ateb eich cwestiynau ynghylch gwenyn a chadw gwenyn. Gobeithiwn eich gweld eto yn 2009.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun