Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Atyniadau 2008 > Miller's Ark Animals

Miller's Ark Animals


 


Mae syniad y ‘Fferm Deithiol’ yn cwmpasu’r dyhead i ddod â phlant ac oedolion i gysylltiad agos ag anifeiliaid fferm gan ennyn diddordeb a pharch, wrth gynnig profiad cyffrous yn niogelwch eu hamgylchedd eu hunain.

Mae’r Fferm Deithiol yn cynnwys defaid ac ŵyn, geifr a mynnau geifr, moch bach, asynnod neu ferlod bychain, dofednod bridiau prin, cywion anferth, hwyaid a gwyddau gyda’u cywion yn eu tymor ac iâr a chywion.    Mae’r pwyslais ar gyffwrdd a bwydo’r anifeiliaid i feithrin hyder ac ymwybyddiaeth.   Mae lles yr anifeiliaid o’r pwys mwyaf trwy gydol yr amser a dim ond y rheini sy’n mwynhau llawer o sylw gaiff eu defnyddio.

Sefydlwyd Miller’s Ark Animals yn 1991 gan Elizabeth Miller B.A. Caergaint, fel cangen o’i phrif fusnes ffermio ac mae wedi ehangu’n gyson byth ers hynny.

Rhan annatod o Miller’s Ark yw’r rhaglen o arddangosiadau poblogaidd iawn sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd trwy gydol y dydd ac sydd fel arfer yn cynnwys:

            Trin Cywion a Hwyaid Bach
            Ysgrafellu Merlod ac Asynnod
            Amser bath moch bach mewn tywydd poeth
            Sgyrsiau mynydd geifr

Mae’r holl arddangosiadau hyn yn cael eu gwneud gan bobl ffermio brofiadol, sy’n rhannu eu profiadau a’u straeon gyda’r cyhoedd gan roi pwyslais mawr ar eu cynnwys yn ymarferol trwy gydol yr amser.

Bydd Miller’s Ark Animals yn dod â golygfeydd, synau a phrofiad y buarth i’r Ŵyl.   Bydd eu detholiad o fridiau prin ac anifeiliaid traddodiadol yn cynnwys rhai o’r canlynol:

            Geifr Pigmi Affricanaidd ac Anglo-Nubian
            Merlod Shetland Bychain
            Asynnod Bychain a Safonol
            Defaid – bridiau traddodiadol a phrin
            Cywion Brahma Anferth
            Wyn Llywaeth/Swci
            Mynnau Geifr Llywaeth/Swci
            Hwyaid a Gwyddau yn eu llyn
            Moch Bach Kune Kune Maori
            Lloi Irish Moiled neu Belted Galloway

Mae’r anifeiliaid i gyd yn rhai a fagwyd gartref, maen nhw’n gyfeillgar iawn ac wedi hen arfer â phlant.


 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun