Cadw Gwenyn

Yng Ngŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru eleni, am y tro cyntaf, bydd Chymdeithas Gwenynwyr Aberhonddu a Maesyfed (B&RBKA) ar y cyd â Chymdeithas Gwenynwyr Cymru (WBKA) yn hybu cipolwg cyffrous ac amrywiol ar y gelfyddyd a’r wyddor o gadw gwenyn.
Wedi’i lleoli ar falconi’r Neuadd Flodau urddasol, bydd stondin eleni, sy’n fwy ei maint, yn cynnwys cwch gwenyn arsylwi sy’n caniatáu i’r ymwelydd archwilio calon cymuned o wenyn yn gwbl ddiogel. Mae gwirfoddolwyr ar gael i dynnu sylw at wahanol ymddygiad y gwenyn ac at y gwahanol brosesau sy’n mynd ymlaen, ac mae yna bob amser hwyl fawr i’w gael yn ‘canfod y frenhines’.
Byddwn yn dangos detholiad o DVDau ar amrywiol agweddau ar gadw gwenyn, ac rydym yn gwahodd pob un ohonoch i chwarae ein cwis gwenyn rhyngweithiol, sy’n sicr o brofi eich gwybodaeth am wenyn i’r eithaf.

Eleni byddwn yn arddangos y gelfyddyd o gydosod cychod gwenyn pecyn fflat yn barod i’w defnyddio y tymor hwn. Bydd gwenynwragedd yn ogystal â gwenynwyr o bob oed yn cymryd rhan yn y gwaith hwn, tystiolaeth, yn y lle cyntaf, fod merched yn gallu gwneud DIY, ac yn ail y gall fod yn waith cymdeithasol, di-straen a hwyliog (ac yn bendant yn haws na dodrefn!). Os nad DIY yw eich cryfder, mae ein stondin yn orlawn o ffotograffau a gwybodaeth ynghylch gwenyn, cadw gwenyn a digwyddiadau yr ydym yn eu trefnu bob blwyddyn. Mae gennym daflenni a ryseitiau i’w rhannu i’r oedolion a sticeri ar gyfer ein hymwelwyr iau. Yn bwysicaf oll, mae gennym ddewisiadau o fêl lleol i’w flasu.
Wedi’i staffio gan wenynwyr o bob rhan o Gymru, edrychwn ymlaen at eich cyfarfod, ac at ateb eich cwestiynau ynghylch gwenyn a chadw gwenyn. Petaech yn dymuno mynd â’ch diddordeb yn yr hobi eithriadol ddiddorol hwn ymhellach, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â Chymdeithas sy’n lleol i chi.
top printiwch