Hen Beiriannau

Peidiwch â methu ymweliad â’r Adran Hen Beiriannau. Mae’r diddordeb mewn Hen Beiriannau Amaethyddol a Garddwriaethol, ynghyd â chelfi ac offer atodol, wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Yn rhannol, mae hyn i’w briodoli i’r niferoedd cynyddol o Dyddynwyr sy’n dal i allu gwneud defnydd effeithiol o offer a gynhyrchwyd yn y blynyddoedd cynharach ynghyd â grwpiau o selogion sydd yn adfer hen bethau i’w hen ogoniant gydag angerdd cyn eu harddangos mewn sioeau a chymryd rhan mewn rhedfeydd ffordd a digwyddiadau tebyg.
Mae Clwb Hen Beiriannau Dyffryn Maesyfed, ar y cyd â chefnogaeth gan fudiadau ac unigolion eraill, yn falch o fod yn trefnu’r sioe hen beiriannau eto eleni fel rhan o Ŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru. Bydd hon yn cael ei threfnu yn yr un man ag yn 2007, nesaf at Brif Gylch yr Ŵyl.
I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos o fewn yr Adran Hen Beiriannau, cysylltwch â Rhian ar 01982 55 44 08 neu sam@rwas.co.uk os gwelwch yn dda.