Uchafbwyntiau 2008
Gŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru 2008 - yr ŵyl orau a brafiaf o’i math yng Nghymru!Roedd Gŵyl 2008 yn ferw o brysurdeb, yn cynnig y diwrnod allan perffaith i bawb, beth bynnag fo’u diddordeb neu’u hoffter.
![]() | ![]() |
| Meirion Owen a’r Cwac Pac yn perfformio o flaen cynulleidfa | Dawnsio Gwerin Albanaidd yn yr Ŵyl Ddawns Geltaidd |
Roedd yr Ŵyl yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer da byw, y confensiynol a’r bridiau prin, arddangosfa Gorwelion Gwyrdd, arddangosfa hen beiriannau, sioe gŵn gyda dros 1000 o gynigion, a gŵyl ddawns Geltaidd. Arddangosfeydd ardderchog yn y Neuadd Flodau ynghyd ag amrywiaeth eang o stondinau gardd, amaeth, bwyd a chrefft a rhaglen lawn o adloniant teuluol, oedd cyfrinach llwyddiant yr Ŵyl. Yn ogystal gallai’r ymwelwyr wrando ar nifer o ddarlithoedd a chymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb ar amryw o faterion yn ymwneud â chadw tyddyn, garddwriaeth, yr amgylchedd a chefn gwlad.
Mae hon yn bendant yn Ŵyl sy’n dathlu bywyd gwledig mewn ffordd ymarferol ond pleserus, yn un o ardaloedd prydferthaf Cymru gellir dadlau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â ni yng Ngŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru y flwyddyn nesaf ar yr 16eg a’r 17eg Mai.
| |
| Gorymdaith o Hen Dractorau a Pheirianwaith ym Mhrif Gylch yr Ŵyl | Arddangoswr defaid ifanc llwyddiannus |



