Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Atyniadau 2010 > Ferrets 2000

Ferrets 2000

Ferret Racing

Mae Ferrets 2000 yn falch o fod yn ôl yn nigwyddiad gorau’r flwyddyn, Gŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru, cefnogwch ni da chi a dewch draw a mwynhau holl gyffro rasio ffureti.

Gwyliwch yr anifeiliaid rhyfeddol hyn yn rhedeg dros ffensys ac ar hyd y tiwbiau a chael bet fach ar y rasys.

Criw bach o bobl ydym, sy’n ymroddedig i gael gwared â’r mythau sy’n gysylltiedig â ffureti; eu bod yn brathu, yn drewi a’u bod ond yn cael eu bwydo ar fara a llaeth ayb.

Byddwn ar gael i ateb eich holl gwestiynau, dewch i siarad â ni da chi; trwy gydol y dydd hefyd byddwn yn arddangos yr hen grefft o wneud rhwydi.

Mae’r rasio ffureti yn y digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Mr Mick Quelch a Mr Martin Brock

Ebost: m.quelch@talk21.com

 
 
top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun