Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Atyniadau 2010 > Gwerin Ddawns Geltaidd

Gwerin Ddawns Geltaidd

 

Fe wêl 2010 y drydedd Ŵyl Ddawns Werin yn cael ei chynnal fel rhan o Ŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.

Forest of dean morris menMae Rhaglen yr Ŵyl Ddawns dal wedi’i chynllunio i apelio at bawb, pa un a ydych dim ond am roi’ch pwysau i lawr ac eistedd a gwylio neu dderbyn gwahoddiad y dawnswyr a chymryd y cyfle i ‘roi cynnig arni’….bydd croeso mawr ichi ymuno. Bydd yna nifer o arddangosiadau yn darparu ar gyfer y rheini a hoffai roi prawf ar eu sgiliau. Mae yna ddewis o ddawnsio Cernywaidd, Gwyddelig, Cymreig, Albanaidd, Morris, Appalachaidd a Hen ddawnsio dilyniant Seisnig.

Bydd pob traddodiad dawns yn cael ei arddangos gan ddawnswyr brwdfrydig, a fydd yn gwahodd aelodau’r gynulleidfa i ‘roi cynnig arni’.  Bydd y dawnsio’n cael ei gynnal ym Mhafiliwn Trefaldwyn bob bore a phrynhawn, pryd y gwahoddir chi i ymuno â ni, pa un a ydych dim ond am eistedd, gorffwys a mwynhau’r arddangosfa neu dderbyn y gwahoddiad i ymuno.

Bydd yr holl Grwpiau Dawnsio yn dod at ei gilydd ar y nos Sadwrn ar gyfer Ceilidh, pan fydd pob grŵp yn cymryd ei dro i arwain y dawnsiau. Petaech yn hoffi dod i’r Ceilidh dewch i Bafiliwn Trefaldwyn rhwng 7.30pm a 10.30pm.   Mae hyn yn ffordd ardderchog o ‘ddod yn fyw’, ar ôl diwrnod prysur yn yr Ŵyl ac yn gyfle hefyd i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd.

Mae Ros Keltic, Dawnswyr Cernywaidd yn ymweld â Maes Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf ac felly hefyd grwpiau dawns Kilkenny o Iwerddon.  Os gwnaethoch chi fwynhau ‘Riverdance’ a ‘Lord of the Dance’ dewch draw a mwynhau’r Dawnswyr Stepio Gwyddelig a Dawnsiau Gosod Gwyddelig traddodiadol.
 
WIMBERRY CLOGGERSRydym yn ffodus fod gennym grwpiau dawnsio lleol, yn cynnwys y grŵp Dawnsio Gwerin Albanaidd, ‘Celtic Links’ a dawnswyr Hen ddawnsiau dilyniant Seisnig o’r Garth yn dod yn ôl eto.

Mae gan bob un o’r grwpiau eu cerddorion eu hunain ac eleni bydd Phill Jones (Piano Wasgedig) o Gaergrawnt yn cyfeilio i ‘Celtic Links’.

Y ddau ddiwrnod ar ôl cinio byddwn yn cynnal parêd, os bydd y tywydd yn caniatáu ac eleni bydd y parêd yn cael ei arwain gan Bibydd o Cheltenham, Alastair Shaw.  Os na welwch chi ni’n dod yna fe glywch chi’r PIBYDD.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Yr Ŵyl Ddawns Werin ym Mhafiliwn Trefaldwyn, ble mae croeso cynnes yn eich aros.


Peter Brock
Cydgysylltydd yr Ŵyl Ddawns

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun