Rydych chi yma: Hafan > Gwyl Wanwyn y Sioe Frenhinol > Atyniadau 2012 > Arddangosfa Offer Llaethdy a Gwneud Rhaffau

Arddangosfa Offer Llaethdy a Gwneud Rhaffau

 

 
Dechreuodd casgliad "Lôn Atgofion" Peter a Pam ryw 15 mlynedd yn ôl gydag offer Llaethdy.  Un o'r eitemau hynaf yw buddai gordd bren, y tybir ei bod o'r 1850'au.  Mae yna lawer o fuddeiau menyn, pen dros ben pren, gwydr.  Hefyd mae yna gawswasg a mowldiau caws, cawsellt, llawer o eitemau'n gysylltiedig â'r llaethdy, poteli llaeth, buddeiau, sbodolau menyn, hufenwyr.
Weithiau mae ychydig o eitemau'r cartref i'w gweld hefyd.

Bydd Mr Lloyd Jones o Dalgarreg, Ceredigion, yn arddangos gwneud rhaffau, penffrwynau a gwneud rhwydi hefyd, ac arddangosfa o 100 o wahanol fathau o glymau.  Y defnyddiau a ddefnyddir yw llin sisal, cotwm a pholypropylen.

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun