Rydych chi yma: Hafan > Gwyl Wanwyn y Sioe Frenhinol > Atyniadau 2012 > Wot’s Cooking yng Ngŵyl Wanwyn 2012

Wot’s Cooking yng Ngŵyl Wanwyn 2012



Rydym yn cynnal arddangosiadau coginio yn yr Ŵyl Wanwyn eleni gyda’r pwyslais ar ddefnyddio bwyd cartref tymhorol ffres, sydd i’w gael yn lleol.

Yn rhedeg y llwyfan mae Katie a Glyn Johnson o www.wotscooking.co.uk a bydd yr arddangosiadau’n cynnwys gwneud bara gyda phobydd pumed genhedlaeth, Robert Swift ar y dydd Sadwrn, a’r pen-cogydd Eidalaidd Enwog, Felice Tocchini yn cymryd y brif ran ddydd Sul.

Byddwch yn gallu gweld yn agos beth y mae’r pen-cogyddion yn ei wneud gan y bydd Glyn yn cadw ei lygad ar y camera (hynny yw os bydd yn cofio’i sbectols!) a bydd Katie yn eich diweddaru ynghylch beth sy’n digwydd ar y llwyfan drwy’r adeg.

Bu Katie’n gweithio fel cyflwynydd a chynhyrchydd i radio’r BBC am 15 mlynedd ac mae Glyn yn dal i wneud hynny, yn ei 36ed flwyddyn erbyn hyn! Yn ystod yr amser hwn, a hwythau wedi’u gwahodd i gyflwyno digwyddiadau cawsant eu swyno a bellach mae Sioeau Bwyd, Diod a Garddio yn rhan fawr o’r hyn a wnânt ac maent wrth eu bodd â phob munud ohono.

Nid yn unig y maent yn gefnogwyr bwyd a chynhyrchwyr lleol, maent hefyd yn rhedeg eu tyddyn ‘bach’ eu hunain ger Llwydlo yn Sir Amwythig sy’n cynnwys Gwartheg yr Ucheldir, Defaid Llŷn, ieir maes ac un neu dda o foch Berkshire ambell dro. Mae garddio’n agos at galon Katie hefyd mewn mwy nag un ffordd gan ei bod yn ymddangos ei bod yn gwybod mesuriad tu mewn i goes Alan Titchmarsh, ac yn ôl pob golwg mae’n hirach nag y meddyliwch chi!

www.wotscooking.co.uk

 

Atodlen


Dydd Sadwrn 19eg Mai

11.00: Robert Swift – Bread 2 Bake!

Gyda bron 150 mlynedd o brofiad pobi y tu ôl iddynt, mae’r teulu Swift yn cynhyrchu’r bara mwyaf blasus a dyfeisgar y gellwch ei gael. Yn parhau’r llinach, mae Robert wedi agor ei siop fara a’i ysgol bobi grefftus ei hun yn Llwydlo yn ddiweddar ac mae’r Pobydd 5ed cenhedlaeth hwn yn eich gwahodd i ddod draw i roi cynnig ar bobi’r dorth berffaith.

www.bread2bake.co.uk

12.00: Daniel Jones - The Harp Inn Pencraig
Bu Daniel yn gweithio fel Sous-Sieff a Sieff Crwst yn River Cottage Hugh Fearnley-Whittingstall, cyn ymgymryd â’i arddull coginio ei hun, gan ddod yn Brif Sieff yn The Harp Inn, Pencraig. Mae Daniel yn mwynhau coginio i gwsmeriaid yr Harp gyda chynnyrch ffres o’r ansawdd gorau un sydd ar gael yn lleol.  Mae’i fwydlenni’n cael eu creu o gwmpas y tymhorau, gan sicrhau bod popeth yn ffres ac yn llawn blas. Mwynhaodd Daniel lwyddiant yng nghystadleuaeth glodfawr Sieff Cenedlaethol y Flwyddyn yn 2011 gan gyrraedd y rowndiau cynderfynol.

www.harpinnradnor.co.uk 

13.00 Robert Swift - Bread 2 Bake!
Gweler arddangosiad 11.00 am os gwelwch yn dda

14.00: Daniel Jones – Siocoledwr & Theisennwr Crefftus
Pen-Siocledwr a Pherchennog 'Daniel Jones - Artisan Chocolatier', wedi’i hyfforddi yn UCB, wedi gweithio ym Marbados ac yn River Cottage (Gweler arddangosiad 12.00pm hefyd os gwelwch yn dda)

www.danieljoneschocolatier.com

15.00:  Janet Crisp – Mynd ati i Goginio!
Mae Janet yn aelod o Ffederasiwn Trefaldwyn Powys SyM yn ogystal ag yn diwtor i’r prosiect ‘Mynd ati i Goginio’ cenedlaethol. Mae cyrsiau Mynd ati i Goginio yn anelu at ddysgu sgiliau paratoi bwyd sylfaenol i rieni, ffyrdd o gael diet iach amrywiol ar gyllideb isel, ac arddangos y gall paratoad sylfaenol bwyd, coginio a bwyta fod yn bleserus.

www.thewi.org.uk/wi-in-wales

Dydd Sul 20fed Mai

11.00: Steve Morgans – Arddangosiad Cigyddiaeth
Mae Steve yn dod o deulu lleol o Ffermwyr a Chigyddion. Mae fferm y teulu’n edrych dros Faes y Sioe ac mae ganddynt siopau yn Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu yn ogystal â’u bod yn ymddangos yn rheolaidd mewn Marchnadoedd Ffermwyr, yn cynnwys Alexandra Palace yn Llundain gyda llawer o gleientiaid enwog, megis Greg Wallace o Masterchef a’r actorion Terry Jones a Neil Morrisey.  Oddi wrth y cownter, mae’r teulu Morgans yn berchnogion ceffylau rasio ac yn selogion rasio brwd.
Cigyddion Teuluol Morgans. 102 The Struet. Aberhonddu. Powys. LD3 7LT

12.00: Felice Tocchini – Sieff Eidalaidd o Fri
Ganwyd Felice yn Porcari, pentref bychan yn union y tu allan i Lucca yn Tuscany, Yr Eidal.  Mae Felice wedi ymddangos ar lawer o raglenni teledu yn cynnwys The One Show, Countryfile, The Gadget Show yn ogystal ag yn y cyfryngau ledled y byd am ei greadigaethau arloesol, megis Teisen ’Sgewyll (syniad i annog plant i fwynhau llysiau y mae cymaint o ddifrïo arnynt) a’r ‘Dunker’ – bisged wedi’i chynllunio i aros yn gyfan pan gaiff ei throchi mewn te…neu siampèn! Mae Felice’n angerddol ynghylch cynnyrch lleol ac yn treulio llawer o’i amser yn gweithio gyda thyfwyr a chynhyrchwyr yn ogystal ag ysgolion a cholegau. Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn yr “Academi Novelli” fawr ei chlod, un o’r 25 o ysgolion coginio gorau yn y Byd, ochr yn ochr â’r sieff enwog, Jean Christophe Novelli ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ar y llwyfan gyda Jean Christophe mewn digwyddiadau bwyd ar draws y wlad.

www.felicetocchini.com

13.00: Steve Morgans – Arddangosiad Cigyddiaeth
Gweler arddangosiad 11.00am os gwelwch yn dda

14.00: Felice Tocchini – Sieff Eidalaidd o Fri
Gweler arddangosiad 12pm os gwelwch yn dda

15.00: Lesley Mackley – Yn Coginio, Bwyta ac Ysgrifennu!
Mae Lesley’n awdur 13 o lyfrau coginio yn ogystal â bod yn Adolygydd i amrywiol gyhoeddiadau, yn cynnwys The Good Food Guide, Alastair Sawday, Les Routiers ac Eat Well in Wales. Mae Lesley’n Arddangosydd Coginio ac yn Ddatblygwr Ryseitiau i gleientiaid megis Bart Spices, Barbers Cheeses, Le Creuset, Cornish Sea Salt ac yn gyn-enillydd Gwobr Ysgrifennwr Rysáit y Flwyddyn Urdd yr Ysgrifenwyr Bwyd. Pan nad yw hi’n addysgu Bwyd mewn ysgolion i bobl ifanc, mae Lesley’n awyddus iawn i hyrwyddo Bwyd Lleol ac mae’n falch o fod yn un o sylfaenwyr a Chyfarwyddwyr Gŵyl Fwyd a Diod Gororau Llwydlo.

www.twitter.com/lesleymackley

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun