Rydych chi yma: Hafan > Gwyl Wanwyn y Sioe Frenhinol > Marchnadoed Ffermwyr > Marchnadoed Ffermwyr

Marchnadoed Ffermwyr

Farmers market 1


Marchnadoedd y Ffermwyr yng Nghymru oedd yn cyd-drefnu’r Neuadd Fwyd unwaith eto. Er bod Gwyl Wanwyn yn ddigwyddiad cenedlaethol, deuai’r cynhyrchwyr bwyd o Gymru a siroedd y gororau gan mwyaf, a chynigiwyd digonedd godidog o rai o fwydydd gorau Cymru a siroedd y gororau i’r ymwelwyr.

Er nad yn Farchnad Ffermwyr yn yr ystyr fanylaf (marchnadoedd a gynhelir yn rheolaidd mewn mannau penodol yw’r rhain) roedd y ffocws ar i gynhyrchwyr arddangos a gwerthu eu cynhyrchion eu hunain.

Bu twf syfrdanol mewn arallgyfeirio fferm dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda rhai o’r bwydydd gorau sydd i’w cael yn unman yn cael eu cynhyrchu. Maes Sioe Frenhinol Cymru yw’r cartref naturiol i arddangos yr hyn sy’n cyflym ddod yn em yng nghoron bwyd ac amaethyddiaeth Cymru.

Mae'r Wyl yn cynnwys ymhlith y cig: cig oen, cig dafad, cig eidion, baedd gwyllt, cig carw, helgig, cig myn gafr, a Charcuterie; amrywiaeth o gawsiau coeth (buwch, gafr a mamog), gwinoedd, seidr, gwirodlynnau perai a gwinoedd ffrwythau, hufen iâ llaethdy o waith llaw a llifeiriant o jamiau, siytnis, cyffeithiau, teisennau a bara crefftwrol ... ac mae’r rhestr yn mynd yn ei blaen.

Cyd-drefnwyd y farchnad gan Mr Stephen Shearman M.Sc, DIC, Rheolwr, Marchnadoedd y Ffermwyr yng Nghymru Cyf, Rose Cottage, Watery Lane, Llanisien, Cas-gwent, Sir Fynwy NP16 6QT

Ffôn: (08456) 106 496  Ebost: stephen@fmiw.co.uk

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun