Rydych chi yma: Hafan > Gŵyl Tyddyn a Gardd > Neuadd Flodau > Neuadd Flodau

Neuadd Flodau

Alliums and EremurusGladioli

Lleolir yr arddangosion garddwriaethol lawer yng Ngŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru wrth galon yr Ŵyl, yn y Neuadd Flodau brysur a lliwgar.

Mae’r Neuadd Flodau yn cwmpasu Adran Stondin Fasnach a Gardd Gystadleuol Broffesiynol, a oedd yn llwyddiannus iawn, gyda chyfanswm o £6,000.00 o arian gwobrwyo yn cael ei ddyfarnu i arddangoswyr yn 2009. Fe fydd cymdeithasau a sefydliadau cysylltiedig â garddwriaeth sydd â stondinau hyrwyddo hefyd yn cael eu cynrychioli yn llawn yn y Neuadd.

Mae’r Neuadd Flodau wedi mynd o nerth i nerth ers ei chychwyniad yn 2002, gan ddenu arddangoswyr o bob rhan o’r DU. Mae’r Ŵyl yn anelu at adeiladu pob blwyddyn ar lwyddiant y Neuadd Flodau ac at gynyddu nifer yr arddangosfeydd blodau a chynnal y safon uchel o ansawdd yr un pryd.


 

Bydd Sioe Deithiol y Daily Mail ac ITV i Arddwyr, sy’n cyfuno difyrrwch a garddwriaeth, yn dychwelyd yn 2010. Bydd gwobrau eu rhannu yr holl ffordd drwy bob sioe hefyd, megis Peiriannau Torri Glaswellt Hayter neu Flymo, Tocwyr Gwrychoedd Black & Decker, Sisyrnau Wilkinson Sword, Torwyr, Tocwyr, Menig Garddio, Hadau a llawer o lyfrau Garddwriaethol newydd.

 

Fe fydd y fasged bicnic yn darparu prydau a byrbrydau sydd newydd eu paratoi ar y balconi sy’n edrych dros y stondinau blodau islaw:


Am fwy o wybodaeth teimlwch yn rhydd i gysylltu â Caron Evans ar 01982 55 44 09 neu caron@rwas.co.uk os gwelwch yn dda.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun