Neuadd Flodau
![]() | ![]() |
| Alliums and Eremurus | Gladioli |
Lleolir yr arddangosion garddwriaethol lawer yng Ngŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru wrth galon yr Ŵyl, yn y Neuadd Flodau brysur a lliwgar.
Mae’r Neuadd Flodau yn cwmpasu Adran Stondin Fasnach a Gardd Gystadleuol Broffesiynol, a oedd yn llwyddiannus iawn, gyda chyfanswm o £5,415.00 o arian gwobrwyo yn cael ei ddyfarnu i arddangoswyr yn 2008. Roedd cymdeithasau a mudiadau sy’n gysylltiedig â garddwriaeth gyda stondinau hyrwyddo â chynrychiolaeth dda yn y Neuadd hefyd.
Mae’r Neuadd Flodau wedi mynd o nerth i nerth ers ei chychwyniad yn 2002, gan ddenu arddangoswyr o bob rhan o’r DU. Mae’r Ŵyl yn anelu at adeiladu pob blwyddyn ar lwyddiant y Neuadd Flodau ac at gynyddu nifer yr arddangosfeydd blodau a chynnal y safon uchel o ansawdd yr un pryd.

Hefyd yn bresennol yng Ngŵyl Tyddyn a Gardd 2008 oedd Sioe ar Daith Arddio'r Daily Mail, yn cymysgu adloniant gyda Garddwriaeth. Cafodd gwobrau eu rhannu yr holl ffordd drwy bob sioe hefyd, megis Peiriannau Torri Glaswellt Hayter neu Flymo, Tocwyr Gwrychoedd Black & Decker, Sisyrnau Wilkinson Sword, Torwyr, Tocwyr, Menig Garddio, Hadau a llawer o lyfrau Garddwriaethol newydd.
Cystadleuaeth Gosod Blodau
Roedd y Gymdeithas wrth ei bodd yn rhoi lle amlwg i arddangosfa o’r artistwaith hwn a grëwyd gan glybiau blodau a threfnwyr ifainc awyddus. Teitlau’r arddangosion oedd “Byw yn y Wlad”, “Pert mewn Pot” ac “Amser Picnic”.

I gael ffurflenni cais y Neuadd Flodau neu fwy o wybodaeth teimlwch yn rhydd i gysylltu â Carys Pugh ar 01982 55 44 09 neu carys@rwas.co.uk os gwelwch yn dda.
Stondinau Masnach
Gweld y stondinau masnach a death i'r Neuadd Flodau yn 2008

