Hawl i Holi Garddwriaeth ITV

Gall ymwelwyr dydd Sul â’r Ŵyl fwynhau Hawl i Holi Garddwriaeth Rhwydwaith ITV, sy’n awr wedi bod mewn bodolaeth am y 12 mlynedd ddiwethaf, yn ymestyn dros 1,683 o sioeau. Bydd yr Hawl i Holi yn cynnwys 3 hicyn 60 munud.
Y rheswm y mae’r sioe mor boblogaidd, yn fwy felly na phob Amser Cwestiynau Garddio arall yw .... ei bod yn sioe gyda gwahaniaeth. Y gwahaniaeth yw ein bod yn ceisio ei gwneud yn ysgafnfryd, gan gymysgu adloniant gyda Garddwriaeth, hefyd, ac yn fwy perthnasol i’r cwsmer, mae gwobrau’n cael eu rhannu yr holl ffordd drwy bob sioe. Ac mae yna o hyd ‘AMSER GWOBR FAWR’, pan fydd gwobrau megis Peiriannau Torri Glaswellt Hayter neu Flymo yn cael eu rhannu, Tocwyr Gwrychoedd Black & Decker, Sisyrnau Wilkinson Sword, Torwyr, Tocwyr, Menyg Garddio, Hadau a llawer o lyfrau Garddwriaethol newydd i enwi ond ychydig.
Mae’r sioe nid yn unig yn addysgol ond yn ddifyr iawn hefyd, os yw eich problem yn gludadwy dewch â hi gyda chi, gan fod cymaint o’r cyhoedd wedi gwneud hyn yn y gorffennol ac wedi mynd adref gyda gwên ar eu hwynebau .... diwrnod a sioe na ddylid eu colli.
Edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd yn Y Neuadd Flodau ar DDYDD SUL 18fed MAI 2008 (Tair sioe y diwrnod, 11.00 y bore, 1.00 yp canol dydd a 2.30 y prynhawn).

top printiwch