Rydych chi yma: Hafan > Gwyl Wanwyn y Sioe Frenhinol > Arddangosfa Byw'n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd > Arddangosfa Byw'n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd

Arddangosfa Byw'n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd

Lleoliad: Y Neuadd Fwyd Newydd a Phafiliwn Trefaldwyn


Bu Arddangosfa Byw’n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl ers ei dechrau gyntaf yn 2006, ac mae’n boblogaidd gydag arddangoswyr a gyda’r cyhoedd. Mae’n gymysgedd llesmeiriol o stondinau masnach, arddangosiadau, gweithdai i’r teulu ac adloniant â thema gwyrdd sydd gyda’i gilydd yn cynnig llawer o syniadau i wneud ein ffyrdd o fyw yn fwy cynaliadwy.

Fel ag sydd ond yn gywir ar gyfer ‘Gorwelion Gwyrdd’ - mae’r arddangosfa arloesol wedi ehangu’n gyson dros y blynyddoedd yn ogystal â bod wedi’i lleoli’n awr ynghanol maes y sioe, mae’i hethos a’i ffocws ar sut i gymhwyso arferion amgylcheddol gynaliadwy at fyw pob dydd yn rhan allweddol o’r ŵyl bellach.

Gan gydnabod bod byw’n gynaliadwy’n effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau, mae ychydig o themâu newydd yn cael eu datblygu yn arddangosfa 2012, yn cynnwys  ‘Ffasiynu’r Dyfodol’ a fydd â sioe ffasiwn y ‘Rhodfa Werdd’ a nifer o stondinau masnach cysylltiedig, o wneud ffelt i ailgylchu dillad, o ffibrau naturiol i siwtiau blew danadl!

Gydag amrywiaeth eang o wybodaeth ar gael am lu o bynciau byw’n gynaliadwy a thros 50 o stondinau masnach, bydd gan yr arddangosfa rywbeth ar gyfer pawb. Pa un a ydych ag eisiau cael gwybod sut i arbed ynni, gwneud y gorau o gompost, gosod melin wynt ar eich tir, neu baneli solar ar eich ysgubor, holi ynghylch opsiynau tanwydd coed, plannu coed, tyfu perlysiau, ynysu eich tŷ â gwlân defaid – neu ddim ond prynu sgarff ffeltiog neu raw ail-law – bydd gan yr arddangosfa rywbeth ar eich cyfer chi a’ch teulu!


Mae Arddangosfa BYW’N GYNALIADWY GORWELION GWYRDD 2012 yn cael ei threfnu gan Reolwyr Prosiect Sarah Morton ac Annie Grundy ac nid gan swyddfa Stondinau Masnach Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Felly dylai pob ymholiad am stondin yn ymwneud ag Arddangosfa BYW’N GYNALIADWY GORWELION GWYRDD gael ei gyfeirio atynt hwy yn:

E: sarah@sarah-morton.co.uk / anniegrundy@clara.co.uk
Ffôn symudol: Sarah: 07775 781897 / Annie 07980 337951

Arddangosfa Byw’n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd: Ffurflenni cais Stondinau Masnach

 

Am y chwe blynedd ddiwethaf mae Arddangosfa Byw’n Gynaliadwy Gorwelion Gwyrdd wedi bod â lle amlwg yn yr Ŵyl Wanwyn ac wedi cynnig gwybodaeth, nwyddau a gwasanaethau ‘gwyrdd’ i’r 26,000 o bobl sy’n ymweld â’r Ŵyl bob blwyddyn. Os hoffech chi wneud cais am stondin fasnach o fewn yr arddangosfa hon yna lawrlwythwch a chwblhewch y Ffurflen Gais isod ynghyd â’r Ffurflen Asesu Risg os gwelwch yn dda.


Ffurflen Gais Gorwelion Gwyrdd 2012

Rheolau a Rheoliadau Gorwelion Gwyrdd 2012

Ffurflen a Chanllawiau Asesu Risg Gorwelion Gwyrdd 2012

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun