Arena Gwyrdd
Y Bwth “Paham Trafferthu?”!
Dydd Sadwrn a dydd Sul – drwy’r dydd.
Trwy gydol y penwythnos mae Gorwelion Gwyrdd yn cynnig amrywiaeth o sgyrsiau gwych a sesiynau holi ac ateb, fel y rhestrir isod yn yr Arena Werdd.
Ond ni all y rhain drin POB UN o’r pynciau a’r materion - rai ohonynt yn ddadleuol - y mae pobl ag eisiau eu trafod!
Felly - rydym wedi creu’r bythau ‘Paham Trafferthu’. Mae’r rhain yn gyfle i gyfranogwyr ac ymwelwyr â Gorwelion Gwyrdd gynllunio a rheoli eu sgyrsiau byr a’u trafodaethau anffurfiol eu hunain ar faterion gwyrdd y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol ar hyn o bryd.
Mae’r pynciau y mae pobl eisoes wedi tynnu sylw atynt i’w trafod yn cynnwys…
Lleoleiddiad, Masnach Deg, Biodanwydd, Ymatebion Cymunedau i Newid yn yr Hinsawdd a Thiroedd Glas Ardderchog Cymru! Mae yna hefyd bapurau MSc gan fyfyrwyr yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, a bydd Chris Jones o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn cynnal ychydig o sesiynau ‘meddyg coed’.
Rhowch wybod inni os oes sesiynau eraill yr hoffech eu cynnal neu’u mynychu ac fe wnawn ein gorau i’ch boddhau!
Dydd Sadwrn 17 Mai
10.30am Ynni’r Haul – Canfyddwch beth all ei wneud i chi.
Mae gan Chris Lord Smith ddealltwriaeth drylwyr o systemau adeiladu, toi a gwresogi ac mae wedi ymrwymo i leihau effaith yr amgylchedd adeiledig.
11.30am Y Trawsnewid i Fywyd y Tu Hwnt i Olew - Olew Brig, Newid yn yr Hinsawdd a Threfi Trawsnewid
Mae prisiau tanwydd a bwyd yn codi. Be sy’n digwydd? Pa mor ddibynnol ydym ar olew a beth allwn ni ei wneud fel cymunedau i leihau ein gollyngiadau carbon a chronni ein hadnoddau lleol i wynebu’r sialensau sydd o’n blaenau?
12.30pm Awr Holi i Dyddynwyr
Panel o arbenigwyr yn ateb cwestiynau ar faterion Gwyrdd i Dyddynwyr.
1.30pm Garddio Newid yn yr hinsawdd
Materion dadleuol yn ymwneud â garddio ar gyfer newid yn yr hinsawdd – gyda Grace Crabb o Ganolfan y Dechnoleg Amgen.
2.30pm Ardystiad Organig - Beth ydyw a sut i’w gael!
Bydd Steven Jacobs o Organic Farmers and Growers yn gallu dweud wrthych beth sydd ei angen a sut y gallant helpu i wneud i organig weithio’n fasnachol i chi.
Dydd Sul 18 Mai
11am Y Trawsnewid i Fywyd y Tu Hwnt i Olew - Olew Brig, Newid yn yr Hinsawdd a Threfi Trawsnewid
Mae prisiau tanwydd a bwyd yn codi. Be sy’n digwydd? Pa mor ddibynnol ydym ar olew a beth allwn ni ei wneud fel cymunedau i leihau ein gollyngiadau carbon a chronni ein hadnoddau lleol i wynebu’r sialensau sydd o’n blaenau?
12 canol dydd Paham Tanwydd Coed?
Mark Weatherlake o Dunster Wood Fuels yn egluro paham a sut y dylem ddefnyddio coed, gyda chyflwyniad i danwydd coed a’i fanteision.
1pm Ynni o Ynni Adnewyddadwy - haul, gwynt a beth arall?
Andy Bull o Asiantaeth Severn Wye Energy yn egluro ynni adnewyddadwy ar raddfa fechan a beth all ei wneud i chi.
2pm Ailddefnyddio Dŵr Llwyd a Rhyfeddod Toiledau Compost
Marcus Zipperlin, Pennaeth Bioleg yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen yn ymchwilio i reolau a gwaharddiadau ailddefnyddio dŵr llwyd ac yn clodfori rhinweddau toiledau compost.
3pm Perchenogaeth a Chynaladwyedd Tir Cymunedol.
Jonathan Brown, Cyfarwyddwr Land For People yn trafod dal tir mewn ymddiriedolaeth er budd cynaladwy cymunedau amaethyddol lleol yn y dyfodol.