Arddangosfa Gorwelion Gwyrdd
Roedd Gorwelion Gwyrdd 2008 yn nodwedd ar Ŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru sydd newydd ei datblygu, gan symud y fenter hon yn ei blaen yn sylweddol o’r arddangosfa Gorwelion Gwyrdd gyntaf a gynhaliwyd y flwyddyn flaenorol. Roedd hi wedi’i chynllunio i alluogi masnachwyr a mudiadau sydd â chysylltiadau â materion ‘gwyrdd’ i hyrwyddo eu nwyddau a’u gwasanaethau i’r 25,000 o ymwelwyr â’r sioe, fel y gallai’r ymwelwyr hynny gael at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn gwneud eu rhan tuag at ofalu am yr amgylchedd ac ymladd y newid yn yr hinsawdd.
![]() | ![]() |
Roedd yr arddangosfa’n llwyddiant mawr gyda 96% o’r masnachwyr yn dweud eu bod wedi cael penwythnos da, y byddent yn dod yn ôl i’r sioe yn y blynyddoedd i ddod ac y byddent yn ei hargymell i eraill.
Roedd adborth ymwelwyr yr un mor dda ynghylch yr amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau a oedd ar gael. Er enghraifft dywedodd Paul Christie o Foel y Ci ‘Cefais wybod popeth sydd angen imi ei wybod ynghylch addasu ein hysgubor mewn ffordd ecogyfeillgar!’
Yn ogystal â’r holl gwmnïau adeiladu ac ynni a oedd yn arddangos, roedd yna hefyd amrywiaeth ragorol o fudiadau ‘gwyrdd’ eraill megis Cymdeithas y Ffermwyr Organig, Canolfan Organig Cymru a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ac amrywiaeth o stondinau yn gwerthu cynhyrchion ecogyfeillgar megis BagAge, Greener Homes, a’r Deco Shop.
![]() | ![]() |
| Staff o Ganolfan y Dechnoleg Amgen |
Dywedodd y trefnwyr, Sarah Morton ac Annie Grundy, a fu’n gweithio i’r Sioe Fawr i roi Gorwelion Gwyrdd at ei gilydd ‘Mae diolch yn ddyledus i bawb a gymerodd ran a’i wneud yn benwythnos mor wych – yn arbennig i Event Recycling am reoli’r gwastraff, Fingers and Forks am ddarparu’r caffi organig a masnach deg ac i bawb a gynigiodd arddangosiadau a sgyrsiau megis ar wneud clwydi a’r drafodaeth ynghylch Trefi Trawsnewid.
At y dyfodol roedd llawer o syniadau ac awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwneud yr achlysur hyd yn oed yn well, gyda mwy o arddangosiadau a gweithgareddau a hyd yn oed yn fwy o stondinau. Dylai unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am yr arddangosfa gysylltu â CAFC ar 01982 554408.
Stondinau Masnach
Gweld y stondinau masnach a daeth ir Arddangosfa Gorwelion Gwyrdd yn 2008



