Cystadleuthau Dyfeisiadau
Rydym eisioes yn ymwybodol fod tyddynwyr yn antutiaethus a llawn dychymyg…
…a dyma’ch cyfle i brofi hyn mewn Cystadleuaeth Dyfeisiadau newydd sbon sy’n cael ei threfnu ar y cŷd gan y Gymdeithas Amaethyddol a cylchgrawn Smallholder.
Oes gennych ddyfais sydd yn eich barn chi yn addas i fod yn y gystadleuaeth newydd yma? Rydym yn edrych am ddyfeisiadau sydd bosib eu defnyddio tu fewn neu tu allan, i gynnwys unrhywbeth o hen eitem wedi ei addasu at ddefnydd newydd, dyfais arbed gwaith unigryw, neu peiriant hollol newydd sy’n rhan allweddol o waith dyddiol y daliad. Y prif reol yw ei fod yn rhywbeth sy’n amlwg yn arbed amser neu sy’n gwneud pethau yn fwy hwylus i dyddynwyr. Bydd pa mor ddefnyddiol yw’r ddyfais yn ogystal a dawn greadigol yr ymgeisydd yn cael ei ystyried.
Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth uchod a gyflwynwyd yn 2007, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y gystadleuaeth yn parhau eto yn 2008 ar linellau tebyg i’r llynedd. Fodd bynnag, bydd dau gategori yn 2008, gyda chynigion yn cael eu rhannu’n ddyfeisiadau syml neu gymhleth. Y rheswm am hyn yw y byddem yn hoffi adeiladu ar yr amrywiaeth lwyr o syniadau a arddangoswyd y llynedd ac annog cynigion gan dyddynwyr a all fod wedi teimlo o’r blaen fod eu syniadau yn rhy fach, neu nad oeddynt yn ddigon cymhleth.
| |
Sylweddolwn ei bod yn anodd diffinio a yw dyfais yn cael ei hystyried yn syml ynteu’n gymhleth, ond peidiwch â phoeni; anfonwch eich cais i mewn ac fe wnawn ni ei ddosbarthu i’r categori y tybiwn sy’n fwyaf priodol. Fel enghraifft; gall y categori syml gynnwys syniad ailgylchu arloesol megis troi poteli plastig yn ‘bethau i ddofednod yfed ohonynt’, tra gallai cynnig cymhleth fod yn unrhyw beth i fyny i’r cludwr olwynion dwbl anferth a enillodd yn 2007. (Cofiwch er hynny, nad y mwyaf yw’r gorau bob amser!)
Bydd beirniadu rhagarweiniol ar yr holl gynigion a dderbynnir, - ond pwy a ŵyr? – fe allai eich dyfais gyrraedd y rhestr fer o derfynyddion a fydd yn cael eu gwahodd i arddangos eu dyfeisiadau yng Ngŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru 2008 yn Llanfair ym Muallt ar 17eg a 18fed Mai mewn sesiwn feirniadu derfynol.
Beirniaid: -
Mr. Brian Waller - Swyddog Ystâd Sioe Frenhinol Cymru wedi Ymddeol
Mrs. Liz Wright – Golygydd Cylchgrawn Smallholder a Thyddynwraig flaenllaw
Mr. Emrys Bowen – Uwch Swyddog Milfeddygol CAFC wedi Ymddeol
Bydd gwobrau Aur, Arian ac Efydd ar gael yn ogystal a gwobrau ariannol.
A fydd hyn yn gyfle i ddechrau prosiect newydd? Peidiwch a methu cyfle i adael eich marc!
• 1af – Gwobr Aur - £150 a Cerdyn Gwobr Aur
• 2il – Gwobr Arian - £100 a Cerdyn Gwobr Arian
• 3ydd – Gwobr Efydd - £50 a Cerdyn Gwobr Arian
• Gwobr Arbennig - £25 – Cerdyn Gwobr Arbennig (Yn cael ei gyflwyno os yw’r beirniad yn dymuno)
Cliciwch fan hyn am Ffurflen Gais a m Reolau ac Amodau y Gystadleuaeth
Am fanylion pellach, cysylltwch a Rhian Thomas ar 01982 554408 neu e.bost rhian@rwas.co.uk
