Rydych chi yma: Hafan > Pencampwriaethau Cneifio’r Byd 2010 > Pencampwriaethau Cneifio’r Byd 2010

Pencampwriaethau Cneifio’r Byd 2010

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o groesawu Pencampwriaethau Cneifio Byd y Gwellau Aur yn 2010, sydd i’w cynnal yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, 19 – 22 Gorffennaf.


Fideo byr o’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn ystod Pencampwriaethau Cneifio’r Byd 2010

 

Mae’r adran Gneifio eisoes yn rhan bwysig allweddol o’r Sioe ei hun, yn denu torfeydd anferth i Ganolfan Gneifio Meirion, sydd wedi’i hadeiladu i’r pwrpas.  Mae’r cystadlaethau Cneifio a Thrin Gwlân yn denu mwy na 300 o gystadleuwyr gydol y pedwar diwrnod, yn cynnwys llawer o gneifwyr Prydeinig a Rhyngwladol o’r safon uchaf. 


Rhagwelir y bydd tua 30 o wledydd yn cystadlu yn y Pencampwriaethau Byd yn 2010. Bydd cystadlaethau Cneifio â Pheiriant, Cneifio â Llafn a Thrin Gwlân yn cael eu cynnal, yn diweddu yn rowndiau terfynol clodfawr y Bencampwriaeth Byd i Dimau ac Unigolion ar ail a thrydydd diwrnod y Sioe, 20 ac 21 Gorffennaf.


Sioe Frenhinol Cymru


Fideo byr am yr hyn sydd gan Sioe Frenhinol Cymru i’w chynnig
 

Gellir dadlau mai Sioe Frenhinol Cymru yw’r sioe fwyaf a mwyaf llwyddiannus o’i bath yn Ewrop ac mae’n dathlu’r gorau yn Amaethyddiaeth y DU.  Wedi’i lleoli ar y maes sioe parhaol yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, mae’r Sioe yn cynnig llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud.


Mae’r Sioe, sy’n para pedwar diwrnod, wedi denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn er 1989, gyda 240,140, y nifer uchaf erioed, yn mynychu sioe 2006. Gall y torfeydd fwynhau amrywiaeth o atyniadau a gweithgareddau gwledig, yn cynnwys dros 7,500 o anifeiliaid yn cystadlu a hyd at 1,000 o stondinau masnach.  Mae adloniant ac atyniadau’r prif gylch yn rhedeg o 8.00 am – 8.00 pm bob dydd. 

Cyfeiriwch at dudalen Sioe Frenhinol Cymru y wefan am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun