Llety i aros yn lleol
Llety ar gyfer Cystadleuwyr a Swyddogion
Bydd y Pwyllgor Trefnu yn gyfrifol am drefnu llety ar gyfer cystadleuwyr, Rheolwyr Tîm, Beirniaid Byd ac Aelodau Cyngor y Byd. Mae’r Pwyllgor yn fodlon cwrdd â chost llety am bedair noson, Nos Sul 18 Gorffennaf, Nos Lun 19 Gorffennaf, Nos Fawrth 20 Gorffennaf a Nos Fercher 21 Gorffennaf 2010. Rhagwelir y bydd yr holl gystadleuwyr a swyddogion yn aros yn neu nid nepell o dref Llanwrtyd (www.llanwrtyd.com) sy’n tua 25 munud o Faes y Sioe. Bydd angen i unrhyw dimau sy’n cyrraedd Cymru cyn dydd Sul 18 Gorffennaf drefnu eu llety eu hunain, ond efallai y byddwn yn gallu rhoi rhywfaint o gymorth gyda hyn.
Gofynnwn ichi lenwi a dychwelyd y ffurflen gais a’r ffurflenni cofrestru timau cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda er mwyn inni allu archebu’r llety cywir.
Llety ar gyfer Partneriaid
Gellir trefnu llety ar gyfer partneriaid swyddogion a chystadleuwyr, ond bydd hyn ar eu cost eu hunain. Gofalwch fod manylion pob partner wedi’u cynnwys ar y ffurflenni cofrestru timau ac yn cael eu dychwelyd cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda er mwyn gallu archebu’r llety cywir. Bydd costau llety ar gyfer partneriaid yn tua £45.00 y person y noson. Bydd y llety mewn amrywiol westai, lleoliadau Gwely a Brecwast a hosteli. Bydd angen talu am bob llety ar gyfer partneriaid ymlaen llaw.
Llety ar gyfer Cefnogwyr
Nid yw’r Pwyllgor Trefnu yn gallu trefnu llety ar gyfer cefnogwyr. Mae rhestrau o’r llety sydd ar gael yn yr ardal leol, y mae rhai ohonynt i’w cael isod:
VisitMidWales Local Accommodation
Mae’r galw am lety yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn uchel iawn. Byddem yn argymell felly eich bod yn archebu eich llety cyn gynted â phosibl. Mae rhyw gymaint o lety ar gael yn Llanfair-ym-Muallt ei hun.
Fel arall mae rhestr ddefnyddiol o wersyllfaoedd lleol i’w chael ar ein gwefan yma