Rydych chi yma: Hafan > Pencampwriaethau Cneifio’r Byd 2010 > Hanes

Hanes

Hanes Cyngor Byd a Phencampwriaethau’r Gwellau AurHistory of the Golden Shears World Council and Championships

 

Pencampwriaeth Cneifio Gwelleifiau Aur y Byd 1994

Ar gyfer Sioe Ddeucanmlwyddiant Cymdeithas y Royal Bath & West of England yn 1977, trawodd John Davis ar y syniad o Bencampwriaeth Byd Gwellau Aur gyntaf.  Wedi cryn gynllunio a sêl bendith gan Gymdeithas Ryngwladol Gwellau Aur Seland Newydd rhoed cychwyn ar y gystadleuaeth.  Denodd y cyntaf un o Bencampwriaethau Byd y Gwellau Aur dimau o ddeuddeg gwlad – Awstralia, Awstria, Lloegr, Ynysoedd y Falkland, Ffrainc, Yr Almaen, Libya, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, De Iwerddon a Chymru.

Yn y chwarter canrif sydd wedi mynd heibio ers y Pencampwriaethau agoriadol, mae’r ornest wedi datblygu’n rhan bwysig o’r calendr cneifio.  Heddiw, mae 10 o wledydd sy’n ffurfio craidd Cyngor y Byd – Awstralia, Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, Norwy, Yr Alban, De Affrica a Chymru.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun