Pencampwriaethau Cneifio’r Byd 2010
Canlyniadau Cneifio Sioe Frenhinol 2011 - Dewch o hyd i Ganlyniadau Cneifio Sioe Frenhinol 2011 yma
Ddydd Mercher, diwrnod olaf Pencampwriaethau Byd y Gwellau Aur, gellid ond cymharu’r awyrgylch yn y pafiliwn cneifio â bod yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer gêm rygbi ryngwladol. Roedd y sylwebwyr Huw Condron a Bill Jones yn cytuno nad oeddynt erioed wedi gweld cymaint o bobl yn yr adeilad. Cyfaddefodd un o brif sylwebwyr Seland Newydd, Koro Mullins nad oedd yntau erioed wedi gweld tyrfa mor fawr yn ei oes.
’Doedd cyfranogiad y gynulleidfa ddim llai na byddarol ar adegau, gan foddi sŵn clychau’r Norwyaid hyd yn oed.
Fe wnaeth hyd yn oed y tywydd aros yn dda, a chadwodd y cawodydd trymion a oedd wedi’u proffwydo draw wrth i’r haul ddisgleirio ar y miloedd o bobl a oedd wedi’u gwasgu yng nghefn yr adeilad.
Cyrhaeddodd gornest Pencampwriaeth Byd y Gwellau Aur ei hanterth wrth i bencampwr byd newydd sbon gael ei goroni. Trechodd Cam Ferguson o Seland Newydd ei gydwladwr David Fagan i’r ail safle, ac enillodd y gwpan am fod â’r pwyntiau corlan gorau hefyd. Daeth y Cymry Gareth Daniel a Gareth Evans yn drydydd a phedwerydd. Aeth y pumed safle i Gavin Mutch o’r Alban a’r chweched i Kieran McCullogh o Ogledd Iwerddon.

Aeth y dyrfa’n wyllt wrth i’r Cymro Gareth Evans wneud yr oen cyntaf mewn ychydig dros 30 eiliad a chadwodd ei fantais am yr ychydig ddefaid cyntaf. Sut bynnag, aeth David ar y blaen ymhen fawr o dro, erbyn dafad rhif pedwar ac arhosodd ar y blaen am y deuddeg nesaf.
“Who’s going to be the Daddy?!” sgrechiodd y sylwebydd wrth i Cam a Gavin rasio mynd, dim ond ychydig strociau y tu ôl iddo.
Ar ddafad 16 aeth Gavin ar y blaen, “The Flying Scotsman!” rhuodd Steve Meredith. Cyrhaeddodd yr awyrgylch lefel newydd o angerdd wrth i Cam fynd ar y blaen wedyn ac aeth i mewn yn gyntaf am ddafad 19 ac 20, ond fe orffennodd pethau gyda ffoto darfod i’w gwahanu wrth iddo ef a Gavin daro eu botymau stopio ar yr un pryd. Gorffennodd David eiliadau yn unig y tu ôl iddynt, gyda’r ddau Gareth a Kieran yn dilyn.
Safodd y dorf i gymeradwyo Cam Ferguson wrth iddo dderbyn ei wobr gyntaf, a diolch i’r trefnwyr a’i gyd-aelodau yn y tîm.
Adlewyrchodd rownd derfynol y cneifio tîm yn gadarnhaol ar gryfder presennol cneifwyr y Deyrnas Unedig, gyda phob un o’r timau cartref yn cymhwyso ynghyd ag Ynysoedd Falkland ac, wrth gwrs, Seland Newydd. Fe wnaeth tîm Seland Newydd gyfiawnhau ei enw fodd bynnag a dal gafael ar deitl cneifio tîm y byd. Daeth Cymru’n ail, gan dderbyn cymeradwyaeth fyddarol, a’r Alban yn drydydd.

Yn groes i’r disgwyl methodd Bangani Joel o Dde Affrica â mynd trwodd i’r rownd derfynol yn y bencampwriaeth cneifio â gwellau unigol. Enillydd teitl y byd oedd Elliot Ntsombo o Lesotho.
Roedd Bangani yn ôl ar ei orau ar gyfer yr ornest timau fodd bynnag, gyda De Affrica’n mynd â’r goron a thîm Lesotho’n dod yn ail.
Rhoddodd y canlyniadau trin gwlân yr hyn yr oedd arnynt ei angen mor daer i’r dyrfa gartref - wrth i Bron Tango fynd â’r teitl Unigol. Roedd llawenydd ei chefnogwyr yn amlwg wrth iddi fynd â’r tlws, gyda chennin anferth a baneri Cymru’n chwifio’n wyllt ar draws y dyrfa.
Enillodd Seland Newydd y bencampwriaeth trin gwlân tîm fodd bynnag, gyda Chymru’n dod yn ail.
Roedd uchafbwyntiau eraill y dydd yn cynnwys David Wyllie o Awstralia yn cneifio dafad amser cinio – er mai dim ond un fraich sydd ganddo (mae unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig arni yn gwybod pa mor anodd ydyw gyda dwy!) a seremoni gau Pencampwriaethau Byd y Gwellau Aur.



