Rydych chi yma: Hafan > Hafan y Gymdeithas > Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Croeso i Faes y Sioe Frenhinol ym Mherfeddwlad Canolbarth Cymru


Ffurfiwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, ac fe gafodd y digwyddiad cyntaf ei gynnal yn Aberystwyth yn yr un flwyddyn.

Mae’r Gymdeithas wedi dod ymhell ers y dyddiau cynnar hynny ac mae Sioe Frenhinol Cymru wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr Cymreig gan ddenu rhyw 230,000 o bobl dros y pedwar diwrnod ac fe’i cefnogir gan tua 18,146 o aelodau teyrngar.

Mae’r llwyddiant hwn wedi caniatáu datblygu helaeth ar faes parhaol y sioe, a brynwyd yn 1963, ac sydd wedi’i leoli ynghanol hyfrydwch cefn gwlad Canolbarth Cymru (Y Ffordd i Llanelwedd).

Mae’n lleoliad canolog delfrydol i gynnal ei dri digwyddiad ei hun ac mae’n cynnig safle o’r radd flaenaf i gleientiaid eraill.


Mae yna ddewis rhagorol o Neuaddau a Phafiliynau Arddangos ac mae’n ganolfan i lawer o fusnesau sy’n cael eu denu i’r man cyfarfod pwysig hwn.

Yn ogystal â chynnal ei dri digwyddiad ei hun pob blwyddyn mae’n croesawu calendr prysur iawn o weithgareddau eraill.

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun