Rydych chi yma: Hafan > Hafan y Gymdeithas > Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf

Ffurfiwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ym 1904. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn Aberystwyth yn yr un flwyddyn.Mae Cymru a’r Gymdeithas wedi newid a datblygu cryn dipyn ers 1904 ac erbyn heddiw Sioe Frenhinol Cymru yw un o’r digwyddiadau pwysicaf yng Nghalendr Cymru bob blwyddyn.

a great showMae’r Gymdeithas yn falch o ganlyniadau llwyddiannus sioeau 2007, a gynhaliwyd yn y tywydd gwaethaf ers i’r Sioe Amaethyddol Frenhinol symud yn barhaol i Lanelwedd, Llanfair-ym-Muallt yn 1963 

Roedd 2007 yn flwyddyn heriol i’r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol, gyda mwy nag erioed yn dod i’r Ŵyl Tyddynwyr a Gerddi.  Mae’r cynlluniau ar gyfer 2008 eisoes ar y gweill, a sir nawdd eleni yw Clwyd.  Y prosiect y maen nhw wedi ei ddewis ar gyfer 2008 yw datblygu’r Neuadd Fwyd newydd.

Eu prosiect ar gyfer 2007 yw i godi tŵr newydd ar gyfer y Prif Gylch. Cychwynodd y gwaith yn mis Rhagfyr ac mae’r adeilad newydd – Tŵr Penfro ar ei newydd wedd yn mynd i fod ar gael ar gyfer Sioe Fawr 2007.

Prosiect gyffrous arall yw gwefan newydd y ‘Sir Nawdd’ sy’n rhestru holl weithgareddau Clwyd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Gwyl Tyddyn a Gardd, Y Sioe Fawr a’r Ffair Aeaf yn ystod y flwyddyn i ddod.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun