Cyfleoedd am swyddi
CYMDEITHAS AMAETHYDDOL FRENHINOL CYMRU CYF
SWYDDOG GWEINYDDOL CYNORTHWYOL
£13,000 i £15,000 ynghyd â phecyn buddion
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r Gymdeithas sefydlog hon, a sefydlwyd yn 1904, i hybu amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, a chadwraeth yng Nghymru, wedi’i lleoli ar ei safle sioe, cynadleddau ac arddangosfeydd gwych yng Nghanolbarth Cymru.
Mae’r Gymdeithas yn gobeithio cyflogi rhywun gyda chymwysterau a chymhelliant priodol i weithio yn y rôl lawn amser hon fel rhan o strwythur tîm a phwyllgor parhaol ymroddedig. I gynorthwyo’n bennaf gyda gweinyddiaeth y swyddfa a pharatoi ar gyfer y cystadlaethau da byw a gynhelir yn Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.
Byddai tystiolaeth o brofiad/fedr yn y categorïau canlynol yn ddymunol:
• Microsoft Word
• Microsoft Excel
• Gweithio mewn swyddfa ac amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
• Gweithio dan bwysau ac i derfynau amser
• Sgiliau cyfathrebu, trefnu a rhyngbersonol da
• Darllen proflenni a rhifedd
Dylid anfon llythyr cais a C.V. at Ysgrifennydd Cynorthwyol y Cwmni, CAFC Cyf, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, Powys LD2 3SY erbyn dydd Gwener, 12 Awst 2011.
Ffôn: 01982 55 44 17 Ebost:caron@rwas.co.uk
Rhowch ‘preifat a chyfrinachol’ ar eich gohebiaeth os gwelwch yn dda.
SWYDDOG STONDINAU MASNACH CYNORTHWYOL
£16,000 - £20,000 ynghyd â phecyn buddion
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r Gymdeithas sefydledig a sylfaenwyd yn 1904 i hyrwyddo amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, a chadwraeth yng Nghymru, sydd wedi’i seilio ar ei safle sioe, cynadleddau ac arddangosfeydd parhaol ardderchog yng Nghanolbarth Cymru.
Mae’r Gymdeithas yn gobeithio cyflogi unigolyn gyda chymwysterau a chymhelliant priodol i weithio yn y swydd lawn amser hon fel rhan o dîm parhaol ymroddedig a strwythur pwyllgorau. Bydd y swydd yn anad dim yn golygu cynorthwyo gyda rheoli a chynllunio stondinau masnach a gweinyddiaeth gyffredinol tri digwyddiad y Gymdeithas.
Byddai tystiolaeth o brofiad/fedr yn y categorïau canlynol yn ddymunol:
• Microsoft Word
• Microsoft Excel
• Autocad
• Dealltwriaeth o ddylunio graffig a gweithio gyda chynlluniau
• Cyllidebu
• Gweithio mewn swyddfa ac amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
• Gweithio dan bwysau ac i derfynau amser
• Sgiliau cyfathrebu a threfnu a sgiliau rhyngbersonol da
• Darllen proflenni a rhifedd
• Trwydded yrru ddilys y Deyrnas Unedig
Dylid anfon llythyr cais a C.V. at Ysgrifennydd Cynorthwyol y Cwmni, CAFC Cyf, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys LD2 3SY erbyn dydd Gwener 12 Awst 2011.
Ffôn: 01982 55 44 17 Ebost:caron@rwas.co.uk
Marciwch eich gohebiaeth yn breifat a chyfrinachol os gwelwch yn dda.
top printiwch