Rydych chi yma: Hafan > Hafan y Gymdeithas > Hanes > Hanes yn fyr

Hanes yn fyr


Ar y 1af o Chwefror 1904, daeth hanner dwsin o gefnogwyr sioeau amaethyddol brwd at eu gilydd yng Ngwesty’r Lion Royal, Aberystwyth i drafod y posibilrwydd o sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol yng Nghymru.

Cefnogwyd y camau cyntaf oedd wedi eu cymeryd gan Loveden Pryse a’i gyd-weithwyr mewn cyfarfod cyffredinol o bobl yn gefnogol i’r syniad yn y Ty Cyffredin yn Llundain, ar y 26ain o Chwefror 1904, a ganwyd Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru. Cymru oedd yr olaf o wledydd y Deyrnas Unedig i sefydlu cymdeithas o’r fath.

The Royal Welsh Show in the 1920s Dyddiau cynnar y Sioe yn yr 1920'au

Datblygodd y Gymdeithas yn ystod ei chwarter canrif gyntaf er waethaf ymyriad y Rhyfel Fawr. Denodd yr unfed sioe a’r bymtheg yng Nghaerdydd ym 1929, 36,917 o ymwelwyr.

Roedd y pum mlynedd ar hugain nesaf yn rai cymysglyd iawn. Yn dechrau ym 1930 yng Nghaernarfon, cynhaliwyd sioeau yn Llanelli, Llandrindod, Aberystwyth, Llandudno, Hwlffordd, Abergele, Trefynwy a Caernarfon eto ym 1939, gyda nifef yr ymwelwyr rhwng 22,500 and 39,000. Yr un eithriad oedd sioe arbennig Caerfyrddin ym 1925 gyda 52,731 o ymwelwyr. Trefnwyd Sioe 1938 ar y cyd gyda Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr yng Ngaerdydd.

O ganlyniad i’r Ail Ryfel Byd, ni chynhaliwyd y Sioe rhwng 1940-46. Roedd 1947 yn flwyddyn llwyddianus iawn i sioeau’n gyffredinol, ac roedd Sioe Fawr Caerfyrddin yn llwyddiant. Anrhydeddwyd y Gymdeithas gyda ymweliad gan Y Dywysoges Elizabeth, a denwyd record newydd gyda 78,951 yn ymweld a’r Sioe, a gwnaethpwyd elw o dros £12,000. Cynhaliwyd Sioe 1949 ar Barc Singleton, Abertawe, gyda 102,101 yn ymweld - record a barhaodd hyd at 1976.

Gorfodwyd y Gymdeithas ym 1960/61 i edrych yn fanwl ar y posibilrwydd o gynal y Sioe ar safle barhaol oherwydd cynydd sylweddol y costau. Penderfynwyd i wneud hyn ym 1962, a gyda diolch i ymdrechion pwyllgor arbennig ym Mrycheiniog a Maesyfed, casglwyd yr arian i brynnu’r safle yma yn Llanelwedd, lle cynhaliwyd y Sioe gyntaf ar ei newydd wedd ym 1963.

Gorfodwyd y Gymdeithas ym 1960/61 i edrych yn fanwl ar y posibilrwydd o gynal y Sioe ar safle barhaol oherwydd cynydd sylweddol y costau. Penderfynwyd i wneud hyn ym 1962, a gyda diolch i ymdrechion pwyllgor arbennig ym Mrycheiniog a Maesyfed, casglwyd yr arian i brynnu’r safle yma yn Llanelwedd, lle cynhaliwyd y Sioe gyntaf ar ei newydd wedd ym 1963.

Mae’r Gymdeithas bellach yn falch o nifer o adeiladau parhaol sydd wedi datblygu yn sgil cymorth ardderchog y Pwyllgorau Sirol Ymgynghorol a’r gefnogaeth mae nhw wedi ei gael yn eu tro gan eu Cynghorau Sirol a Rhanbarthol.

Dyddiadau allweddol eraill:

  • Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Dulyn ym 1731
  • Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol yr Alban ym 1784
  • Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr ym 1838
  • Cynhaliwyd y gyntaf o Sioeau Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar y 3ydd a’r 4ydd o Awst 1904

A vintage photo of the Llanelwedd Grounds
Maes Sioe Llanelwedd o'r archifau

 

Mae’r wybodaeth hanesyddol ar y wêfan yma trwy gymorth caredig a chydweithrediad W.Dyfrig Davies a Terwyn Davies.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun