Y Blynyddoedd Cynnar 1904 - 1909
O ran sefydlu’r Gymdeithas, roedd hwn yn gyfnod o anghytuno ac o ddadlau ffyrnig. Ar y 1af Chwefror 1904 y cododd Lewes T. Loveden Pryse (trydydd mab Syr Pryse Pryse, Gogerddan) y syniad o gael Cymdeithas Genedlaethol a Sioe Genedlaethol. Roedd nifer yn cytuno – ond un a oedd yn ffyrnig yn erbynJohn Gibson, golygydd y ‘Cambrian News’ ar y pryd.
Loveden Pryse
Bu cryn ddadlau – a hynny yn bersonol iawn o fewn colofnau’r papur hwnnw. Roedd Gibson yn gweld mab i dir-feddianwr yn ceisio gorfodi sefydliad ar ffermwyr Cymru, gan ddadlau y byddai’n gwneud niwed mawr i Gymdeithas Amaethyddol Gogledd Ceredigion. Cafodd Gibson gefnogaeth Cymdeithas Amaethyddol y Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin – a hynny oherwydd eu bod hwy yn eiddigeddus nad Caerfyrddin fyddai’n gartref i’r Gymdeithas a’r sioe newydd!
Arglwydd Powis, tirfeddianwr mwya Cymru ar y pryd
Er waethaf y dadlau – cafwyd cefnogaeth Arglwydd Powis, tirfeddianwr mwyaf Cymru, Arglwydd Tredegar, ac amryw o Aelodau Seneddol – gan gynnwys Vaughan Davies AS Ceredigion (a ddaeth wedyn yn Arglwydd Ystwyth, Tanybwlch). Un arall allweddol ei gefnogaeth oedd D.D.Williams – sef mab fferm yr Argoed, Tregaron a oedd yn ddarlithydd mewn amaeth yn y Brifysgol yn Aberystwyth.
Cynhaliwyd y sioe gyntaf ar y 3ydd a’r 4ydd o Awst, 1904 – ar gaeau’r Ficerdy, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, a bu’n llwyddiant. Un o’r enillwyr cyntafmerlen Gymreig Evan Jones, Manorafon, Llandeilo – "Grey Light". Gwerthwyd hi wedyn yn 1911 i Anthony Horden o Awstralia am fil gini!
"Grey Light", enillydd ym 1904
Er i bobl dros Gymru gynhesu at y syniad o gael sioe genedlaethol, roedd diffyg aelodaeth a diffyg arian yn gwneud gwaith y Gymdeithas yn anodd. Y nod oedd i fod yn fwy na dim ond sefydliad i drefnu sioe, ac roedd pedwar prif amcan gan y Gymdeithas:
- Yn gyntaf, cynnal arddangosfa ganolig faintiolus, yn agored i’r byd, gyda rhai gwobrwyon arbennig i ffermwyr Cymreig.
- Yn ail, cynorthwyo cymdeithasau teirw, stalwyni a merlod ar hyd a lled Cymru, drwy gyfrannu arian atynt.
- Yn drydydd, cyhoeddi cylchgrawn amaethyddol yn Gymraeg a Saesneg ai roddi i bob aelod.
- Yn bedwerydd – cynorthwyo amaethyddiaeth - hyd eithaf ei gallu - yn gyffredinol drwy Gymru i gyd.
Parhewch gyda’r sioe yn mynd ar y ffordd 1910-1939