Rydych chi yma: Hafan > Hafan y Gymdeithas > Newyddion CAFC > Fferm Ffactor – y wobr y mae pob ffermwr am ei hennill

Fferm Ffactor – y wobr y mae pob ffermwr am ei hennill


Mae’r gystadleuaeth y mae pob ffermwr yn breuddwydio am ei hennill bron a chyrraedd ei uchafbwynt ar S4C, mewn cyfres sy’n llawn cyffro, drama, emosiwn a sialensiau difyr.

Y nod yw ennill teitl Fferm Ffactor 2011 a’r wobr fawr - cerbyd 4x4 Isuzu Rodeo Denver Max - ond i godi’r tlws a gyrru’r car, bydd yn rhaid plesio dau feirniad llym dros gyfnod caled o gystadlu.

Ond, mae’r tri sydd ar ol yn y gystadeluaeth – Malcolm Davies o Ben Llyn, Aled Roberts o Llanrheadr-y-Mochnant a Sam Carey o Rhoshill, ger Aberteifi  angen eich help chi, y gynulleidfa.

Eu tasg yr wythnos yma yw creu hysbyseb i hybu amaeth yng Nghymru fydd yn cael ei roi i fyny ar dudalen  www.facebook.com/ffermffactor  ar ol y rhaglen (9pm, Tachwedd 23),  ac mae angen i CHI  bleidelisio drwy glicio ‘hoffi’ ar eich hoff hysbyseb.

Bydd y pleidleisiau yn cael ei cyhoeddi yr wythnos ganlynol yn rhaglen olaf y gyfres pan gawn wybod pwy yw ennillydd Fferm Ffactor 2011.

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun