Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf
Dyddiadau ar gyfer y ddyddiadur
Sioe Frenhinol Cymru 2008: 21 - 24 Gorffennaf
Ffair Aeaf 2008: 1 & 2 Rhagfyr
Gŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru 2009: 16 & 17 Mai
Prynwch Docynnau Sioe Frenhinol Cymru Ar-lein
Manteisiwch ar y bargeinion sydd ar gael trwy archebu tocynnau Sioe Frenhinol Cymru 2008 ar-lein ac mi fyddwch yn osgoi colli amser wrth y mynedfeydd prysur!
Prynwch eich tocynnau ar-lein neu trwy ffôn ar 0844 545 0517

Ffurfiwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ym 1904. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn Aberystwyth yn yr un flwyddyn.Mae Cymru a’r Gymdeithas wedi newid a datblygu cryn dipyn ers 1904 ac erbyn heddiw Sioe Frenhinol Cymru yw un o’r digwyddiadau pwysicaf yng Nghalendr Cymru bob blwyddyn.
Mae’r Gymdeithas yn falch o ganlyniadau llwyddiannus sioeau 2007, a gynhaliwyd yn y tywydd gwaethaf ers i’r Sioe Amaethyddol Frenhinol symud yn barhaol i Lanelwedd, Llanfair-ym-Muallt yn 1963
Roedd 2007 yn flwyddyn heriol i’r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol, gyda mwy nag erioed yn dod i’r Ŵyl Tyddynwyr a Gerddi. Mae’r cynlluniau ar gyfer 2008 eisoes ar y gweill, a sir nawdd eleni yw Clwyd. Y prosiect y maen nhw wedi ei ddewis ar gyfer 2008 yw datblygu’r Neuadd Fwyd newydd.
Eu prosiect ar gyfer 2007 yw i godi tŵr newydd ar gyfer y Prif Gylch. Cychwynodd y gwaith yn mis Rhagfyr ac mae’r adeilad newydd – Tŵr Penfro ar ei newydd wedd yn mynd i fod ar gael ar gyfer Sioe Fawr 2007.
Prosiect gyffrous arall yw gwefan newydd y ‘Sir Nawdd’ sy’n rhestru holl weithgareddau Clwyd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Gwyl Tyddyn a Gardd, Y Sioe Fawr a’r Ffair Aeaf yn ystod y flwyddyn i ddod.
Sioe Frenhinol Cymru 2008.
Ymwelwch ag adran Sioe Frenhinol, i gael gwybod mwy am y digwyddiad ardderchog yma ym mis Gorffennaf.
top printiwch
