Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Croeso i Faes y Sioe Frenhinol ym Mherfeddwlad Canolbarth Cymru
Ffurfiwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, ac fe gafodd y digwyddiad cyntaf ei gynnal yn Aberystwyth yn yr un flwyddyn.
Mae’r Gymdeithas wedi dod ymhell ers y dyddiau cynnar hynny ac mae Sioe Frenhinol Cymru wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr Cymreig gan ddenu rhyw 230,000 o bobl dros y pedwar diwrnod ac fe’i cefnogir gan tua 15,000 o aelodau teyrngar.
Mae’r llwyddiant hwn wedi caniatáu datblygu helaeth ar faes parhaol y sioe, a brynwyd yn 1963, ac sydd wedi’i leoli ynghanol hyfrydwch cefn gwlad Canolbarth Cymru.
Mae’n lleoliad canolog delfrydol i gynnal ei dri digwyddiad ei hun ac mae’n cynnig safle o’r radd flaenaf i gleientiaid eraill.
Mae yna ddewis rhagorol o Neuaddau a Phafiliynau Arddangos ac mae’n ganolfan i lawer o fusnesau sy’n cael eu denu i’r man cyfarfod pwysig hwn.
Yn ogystal â chynnal ei dri digwyddiad ei hun pob blwyddyn mae’n croesawu calendr prysur iawn o weithgareddau eraill.
Prynwch Docynnau Gwyl Tyddyn a Gardd Ar-lein
Manteisiwch ar y bargeinion sydd ar gael trwy archebu tocynnau Gwyl Tyddyn a Gardd ar-lein ac mi fyddwch yn osgoi colli amser wrth y mynedfeydd prysur!
Prynwch eich tocynnau ar-lein neu trwy ffôn ar 0844 545 0517

