Rydych chi yma: Hafan > Hafan y Gymdeithas > Gwybodaeth Nawdd > Astudiaethau Achos Noddwyr

Astudiaethau Achos Noddwyr

Frank Sutton Ltd, Usk

  Frank Sutton Cyf., Brynbuga
Digwyddiadau Nawdd:

Gwyl Tyddyn a Gardd
Y Sioe Fawr
Y Ffair Aeaf

Adrannau Nawdd: Y Sioe Fawr
Gwartheg Hirgyrn, & Cerbydau Cwrteisi

Ffair Aeaf & Gwyl Tyddyn a Gardd
Cerbydau Cwrteisi a pheiriannau

Mae Frank Sutton wedi bod yn rhan o gwmni teuluol Frank Sutton Cyf. ers y 1960’au yn gwerthu peiriannau amaethyddol a garddwrol. Mae wedi bod yn gefnogwr brwd o ddigwyddiadau’r Gymdeithas am y rhan fwyaf o’i 40 mlynedd mewn busnes. Mae Ben ei fab bellach yn aelod blaenllaw o’r busnes, a’n gweld Y Sioe Fawr fel y sioe orau ym Mhrydain.

 

Tesco

  Tesco
Digwyddiadau Nawdd:

Gwyl Tyddyn a Gardd
Y Sioe Fawr
Y Ffair Aeaf

Sponsorship Areas:

Y Sioe Fawr
Gwartheg Gwyn Prydeinig, Gwartheg yr Ucheldir & Gwartheg Murray Grey

Gwyl Tyddyn a Gardd
Adran y Defaid

Ffair Aeaf
Adrannau Gwartheg a Defaid

Mae Tesco wedi noddi digwyddiadau ar Faes Y Sioe ers 2002, ac yn hapus iawn gyda’r pecynnau nawdd sy wedi eu cynllunio yn arbennig iddyn nhw. Mae mwy a mwy o bobl yn ymweld a stondin Tesco bob blwyddyn, ac mae staff y cwmni yn gallu treulio amser o safon gyda chwsmeriaid a chyflenwyr yn yr un man.

Tesco


Jeffrey Jones, Aberkenfig

  Jeffrey Jones, Aberkenfig
Digwyddiadau Nawdd:

Y Sioe Fawr

Adrannau Nawdd:

Merlod Cymreig Adran B – 3 dosbarth

Mae Jeffrey wedi mwynhau ymweld a’r Sioe erioed, ac wedi bod yn un o’n noddwyr gwerthfawr ni am dros 10 mlynedd.

Mae ei becyn nawdd yn cynnwys tocynnau mynediad, cinio ym Mwyty Ardal Y Cyngor, mynediad i faes parcio cyfagos i’r Sioe, defnydd o bafiliwn y noddwyr, a mynediad i adran y noddwyr yn eisteddle’r Prif Gylch.

Mae wrth ei fodd gyda’r pecyn nawdd mae’n ei dderbyn bob blwyddyn, a’n teimlo fod ei amser yn y Sioe yn fwy pleserus i’w deulu a’i ffrindiau.

 

 

Natwest Bank

  Natwest Bank
Digwyddiadau Nawdd:

Y Sioe Fawr

Adrannau Nawdd:

Gwartheg, Moch & Gwobrau Y Gymdeithas
Cynllun datblygu Adeilad Rheoli y Prif Gylch


Mae banc NatWest yn falch iaw’n o’i wreiddiau Cymreig sy’n mynd nôl cyn belled a 1790. Mae nhw’n arbennig o falch o’u cysylltiad gyda Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n pontio cyfnod dros 4 degawd. Mae nhw’n gweld y cysylltiad fel perthynas gadarn a buddiol.

Natwest

 

I ddysgu mwy am becynau nawdd y Gymdeithas, a sut y gallen nhw weithio i chi, cysylltwch ac Audrey Lewis a’r tîm nawdd ar Faes y Sioe.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun