Astudiaethau Achos Noddwyr
Frank Sutton Ltd, Usk
| Frank Sutton Cyf., Brynbuga | |
| Digwyddiadau Nawdd: | Gwyl Tyddyn a Gardd |
| Adrannau Nawdd: | Y Sioe Fawr Gwartheg Hirgyrn, & Cerbydau Cwrteisi Ffair Aeaf & Gwyl Tyddyn a Gardd Cerbydau Cwrteisi a pheiriannau |
Mae Frank Sutton wedi bod yn rhan o gwmni teuluol Frank Sutton Cyf. ers y 1960’au yn gwerthu peiriannau amaethyddol a garddwrol. Mae wedi bod yn gefnogwr brwd o ddigwyddiadau’r Gymdeithas am y rhan fwyaf o’i 40 mlynedd mewn busnes. Mae Ben ei fab bellach yn aelod blaenllaw o’r busnes, a’n gweld Y Sioe Fawr fel y sioe orau ym Mhrydain.
“Mae’r Sioe yn un o’n ‘prif ddigwyddiadau’ ni gan ei bod yn cynnig cyfle gwych i ni gyfarfod a’n prif darged demograffig; y gymuned amaethyddol. Rydym bob amser yn llwyddo i werthu o’n stondin fasnach yn y Sioe, a rydym yn derbyn llu o ymoliadau sy’n arwain at werthiant ...mewn ambell achlysur hyd at 10 mîs ar ôl Sioe.”
Ben Sutton, Frank Sutton Cyf.
Tesco
| Tesco | |
| Digwyddiadau Nawdd: | Gwyl Tyddyn a Gardd |
| Sponsorship Areas: | Y Sioe Fawr |
Mae Tesco wedi noddi digwyddiadau ar Faes Y Sioe ers 2002, ac yn hapus iawn gyda’r pecynnau nawdd sy wedi eu cynllunio yn arbennig iddyn nhw. Mae mwy a mwy o bobl yn ymweld a stondin Tesco bob blwyddyn, ac mae staff y cwmni yn gallu treulio amser o safon gyda chwsmeriaid a chyflenwyr yn yr un man.

“Mae digwyddiadau’r Gymdeithas Amaethyddol bob amser wedi eu trefnu’n ardderchog ar gyfer noddwyr ac ymwelwyr. Mae nhw’n cynnig cyfleon i rwydweithio, i gyfarfod pobl newydd, ac i adeiladu perthynas gyda phartneriaid a chwsmeriaid. Rydym bob amser yn mwynhau yr awyrgylch arbennig sy’n deillio o frwdfrydedd yr ymwelwyr ac arddangoswyr yn yr un modd.” |
Jeffrey Jones, Aberkenfig
| Jeffrey Jones, Aberkenfig | |
| Digwyddiadau Nawdd: | Y Sioe Fawr |
| Adrannau Nawdd: | Merlod Cymreig Adran B – 3 dosbarth |
Mae Jeffrey wedi mwynhau ymweld a’r Sioe erioed, ac wedi bod yn un o’n noddwyr gwerthfawr ni am dros 10 mlynedd.
Mae ei becyn nawdd yn cynnwys tocynnau mynediad, cinio ym Mwyty Ardal Y Cyngor, mynediad i faes parcio cyfagos i’r Sioe, defnydd o bafiliwn y noddwyr, a mynediad i adran y noddwyr yn eisteddle’r Prif Gylch.
Mae wrth ei fodd gyda’r pecyn nawdd mae’n ei dderbyn bob blwyddyn, a’n teimlo fod ei amser yn y Sioe yn fwy pleserus i’w deulu a’i ffrindiau.
“Mae’r pecyn nawdd yn gwneud pethau llawer mwy hawdd i gyfarfod gyda ffrindiau, ac i fwynhau y Sioe. Mae’n ddigwyddiad cymdeithasol heb ei ail, ac mae cynnwys y pecyn nawdd bob amser yn wych. Mae safon y prydau bwyd yn Ardal y Cyngor bob amser yn ardderchog, ac mae’r gallu i ddefnyddio’r eisteddle ar brynhawn Mercher y Cobiau bob amser yn fonws mawr."
Jeffrey Jones
Natwest Bank
| Natwest Bank | |
| Digwyddiadau Nawdd: | Y Sioe Fawr |
| Adrannau Nawdd: | Gwartheg, Moch & Gwobrau Y Gymdeithas |
Mae banc NatWest yn falch iaw’n o’i wreiddiau Cymreig sy’n mynd nôl cyn belled a 1790. Mae nhw’n arbennig o falch o’u cysylltiad gyda Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n pontio cyfnod dros 4 degawd. Mae nhw’n gweld y cysylltiad fel perthynas gadarn a buddiol.

“Mae’r Sioe Fawr yn un o’r digwyddiadau gorau o’r fath yn Ewrop sy’n uno ein diwydiant amaethyddol a’n cymunedau gwledig ni mewn dathliad pedwar diwrnod o’r hyn sydd orau ym myd Amaeth Prydain. Mae’n lwyfan ardderchog i ni i hybu ein gwasanaethau, an bwysicach fyth i gyfarfod cwsmeriaid hen a newydd mewn awyrgylch anffurfiol a chyfforddus.”
Aled Williams, NatWest
I ddysgu mwy am becynau nawdd y Gymdeithas, a sut y gallen nhw weithio i chi, cysylltwch ac Audrey Lewis a’r tîm nawdd ar Faes y Sioe.
Ffôn: 01982 554410
e-bost: audrey@rwas.co.uk