Croeso i Sioe Frenhinol Cymru
Dros 230,000 yn gweld Sioe Frenhinol Cymru
Daeth Sioe Frenhinol Cymru â’i rhediad pedwar diwrnod yn Llanelwedd i ben gyda’r nifer mynychwyr pedwerydd uchaf ers iddi ymgartrefu yn Llanfair ym Muallt 47 mlynedd yn ôl. | Fideo byr am yr hyn sydd gan Sioe Frenhinol Cymru i’w chynnig |
| |
| Kings Troop, RHA | JCB Dancing Diggers |
Rhoddwyd hwb i’r ffigurau gan y cystadleuwyr a’u cefnogwyr o 28 o wledydd yn cymryd rhan ym Mhencampwriaethau Cneifio’r Byd, a ddychwelodd i Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf er 1994.
Fe wnaeth bron 1000 o ymwelwyr tramor o 40 o wledydd ymgofrestru hefyd yn y Pafiliwn Rhyngwladol ar faes y sioe, yn cael eu harwain gan 191 o Seland Newydd a 143 o’r Almaen.
Disgrifiodd cadeirydd bwrdd Sioe Frenhinol Cymru, David Lewis, y sioe fel llwyddiant ysgubol er bod cenllif o law ar yr ail ddiwrnod wedi arwain at ddifrodi wyneb y prif gylch eto. Rhoi wyneb newydd ar y cylch i ddileu’r broblem fyddai’r prif brosiect ar gyfer y flwyddyn i ddod, cynllun a fyddai’n costio tua hanner miliwn o bunnoedd, meddai.
Roedd dros 1000 o stondinau masnach ar faes y sioe ac roedd llawer ohonynt yn sôn fod busnes yn brysur wrth i beiriannau arian ddosbarthu arian i siopwyr eiddgar yn ôl cyfradd o dros £300,000 y dydd. Croesawodd y gymdeithas ymchwydd o aelodau newydd yn ystod y sioe hefyd, gan fynd â chyfanswm yr aelodaeth i tua 18,000.
Nawdd a Lletygarwch
Os hoffech chi gael gwybod sut y gall nawdd hyrwyddo eich busnes chi, ymwelwch â’n hadran nawdd.
Atgoffir ymwelwyr na chaniateir c˘n yn unrhyw le o fewn maes y sioe - heblaw c˘n tywys.
| Dilynwch ni ar: |
top printiwch



