Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Atyniadau 2008 > Tim Arddangos Beiciau Modur Dull Rhydd Bolddog Lings

Tim Arddangos Beiciau Modur Dull Rhydd Bolddog Lings

 



Mae’r Gymdeithas yn cydnabod yn ddiolchgar y Nawdd i Dîm Arddangos Beiciau Modur Dull Rhydd Bolddog Lings gan

ISUZU UK LTD

Mae gan y tîm, sy’n cael ei glodfori’n genedlaethol, y ramp tryciau a glanio mwyaf a mwyaf soffistigedig yn y byd, sydd eisoes wedi’i brofi gan feicwyr proffesiynol dull rhydd gorau’r byd, yn cynnwys rhif 1 y Byd Mike Metzger.

Mae’r ramp yn caniatáu i’r beicwyr neidio bylchau o dros 75 troedfedd a chyrraedd uchder o dros 35troedfedd yn yr awyr, sy’n rhoi digon o “amser yn yr awyr” i’r beicwyr berfformio casgliad o driciau sy’n berygl bywyd ac sydd ond i’w gweld ar y teledu fel arfer.  Mae’r sioe yn amlygu triciau megis y ‘look back heart attack’, ‘holly grab’, ‘switch blade’, ‘kiss of death’, ‘dead boy’ a llawer mwy. Bydd llawer o’r symudiadau hyn yn golygu bod y beiciwr yn codi oddi ar y sedd, yn symud dwylo oddi ar y cyrn ac yn cylchdroi’i gorff o amgylch y beic! Mae’r Beicwyr yn mynd benben â’i gilydd hefyd mewn prawf gwirioneddol o’u hyder i weld pwy fydd yn gallu gwneud y triciau mwyaf i geisio dwyn perswâd ar y dyrfa yn y gystadleuaeth dull rhydd.  Os nad yw hynny’n ddigon mae’r beicwyr yn rhoi sylwebaeth ar y beic wrth berfformio triciau, gan roi ichi wir flas o beth y mae’r beiciwr yn ei wneud. 

Mae tîm dull rhydd 2008 yn ymfalchïo yn y Gorau o feicio Prydeinig, ac yn cynnwys y talent newydd gorau ym mherson prif feiciwr FMX pedair strôc y Deyrnas Unedig, Dan Whitby, a fydd hefyd yn rheoli’r tîm eleni.  Mae’r tîm hefyd yn cynnwys beiciwr FMX uchel ei barch y Deyrnas Unedig, Samson Eaton, a’r talent newydd Arran Powley, gyda dau feiciwr yn perfformio ym mhob sioe.  Mae beicwyr gwadd arbennig yn ymddangos mewn digwyddiadau dethol gydol y calendr a gwahoddir y cyhoedd i gyfarfod â sêr y sioe yn stondin ryngweithiol Bolddog Lings i gael gwybod mwy am reidio beiciau modur.

Mae Rheolwr Tîm Bolddog Lings ac un o feicwyr dull rhydd gorau’r Deyrnas Unedig, Dan Whitby, yn disgrifio’r sioe fel, “Mae’n fwy na dull rhydd yn unig. Mae’n sioe ddi-dor a fydd yn difyrru pawb, o selogion beicio oddi ar y ffordd i’r cyhoedd.  Mae’n rhan sy’n rhaid ei gweld o unrhyw sioe ac mae’i phoblogrwydd yn tyfu’n barhaus wrth i’r ymwybyddiaeth o FMX gynyddu.”

I gael golwg cyffredinol ewch i www.bolddog.com.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun