Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Atyniadau 2009 > Jean Francois Pignon

Jean Francois Pignon

 ‘LE PARDON’ – Y GADWYN FADDEUANT


Am amser maith, rwyf wedi bod ag eisiau gwneud rhywbeth da i ddynoliaeth. Gall hynny ymddangos ychydig yn rhodresgar, ond gyda gostyngeiddrwydd y byddwn yn hoffi helpu eraill. Dywedir wrthyf yn aml fod rhywun ag angen arian, modd, symudiadau, amser ayb.  Choelia’ i fawr. Dro yn ôl, gwelais ffilm hynod wefreiddiol ''Pay it Forward,'' a roddodd syniad imi. Ar sail y cysyniad ''Byddwch â chariad y naill at y llall,” dywedais wrthyf fy hun efallai nad oedd rhaid mynd i Affrica neu India i ddod o hyd i bobl anhapus.  Credaf fod yna ddrygioni llwyr sy’n llenwi ein calonnau â chasineb, dialedd, cenfigen a chystadleuaeth, a bod pob rhyfel yn deillio o hyn. Faint ohonom sy’n teimlo chwerwder neu ddifaterwch at un neu fwy o bobl? Pwy all fynd yn ddwfn i lawr heb ddod o hyd i gasineb wedi’i guddio o dan y blynyddoedd?

Asid yw’r emosiwn hwn sy’n eich cyrydu ychydig bob dydd, mae’n ein gwanhau ac yn ein chwerwi. Paham cadw’r gwenwyn hwn yn y cynhesrwydd tra’i fod mor syml cael gwared arno? Maddeuwch ac ymddiheurwch.  Mae hynna’n wir ryddhad! On’d yw’n chwarae plant? Wnaethoch chi erioed ofyn i’ch plentyn fynd i ymddiheuro hyd yn oed er mai dim ond peth bach dibwys ydoedd? Ac oni wnaethant ailddechrau chwarae gyda chalon ysgafn wedyn? Yma, mae’n hawdd fel baw! Mae manteision y weithred yma’n anhygoel! Ar unwaith, byddwch yn teimlo’n rhydd, ac yna bydd y manteision yn llifo dros eich bywyd cyfan, dros y bobl a garwch. Byddwch ag eisiau un peth yn unig, ei draddodi ac felly gall pobl a welwch chi’n dioddef gael eu hesmwytho yn eu tro. Er enghraifft, os bu ichi ychydig flynyddoedd yn ôl anafu aelod o’ch teulu yn eiriol a’ch bod heb siarad â nhw ers hynny, yna mae cwrs eich bywyd yn parhau fel cynt heb ddatrys y sefyllfa. Heb farnu, heb ofyn am ddim yn ôl, heb ailystyried y gorffennol, rydych yn gallu dweud wrthynt: "Mae’n ddrwg gennyf, mae’n ddrwg gennyf fod wedi gwneud niwed ichi, nid dyna’r hyn oedd arnaf ei eisiau. ’Dwyf i ddim yn teimlo dim mwy o gasineb atoch, ac rwyf yn gobeithio y gallech faddau imi ryw ddiwrnod." Neu enghraifft arall sy’n hyd yn oed yn fwy anodd; os yw rhywun yn eich niweidio chi, yn fawr iawn. Bob tro y byddwch yn meddwl amdano, daw blas chwerw i’ch ceg. I allu dweud: "Rwyf yn maddau iti, ’dwyf i ddim yn teimlo dim mwy o gasineb am beth wnaethost imi. Rwyf ag eisiau mynd ymlaen â’m bywyd heb y maen melin hwn o chwerwder am fy ngwddw."

Yn amlwg, bydd arnoch angen llawer o gryfder ar y dechrau, ond bydd hynny’n eich helpu gymaint ac mae’r pris sydd i’w dalu yn chwerthinllyd. ’Dyw’r syniad hwn yn costio dim, bydd yn ennill llawer. Mae’n rhydd rhag unrhyw syniad crefyddol a pheidiwch â hidio os ydyw’n iwtopaidd, rwyf ag eisiau credu ynddo. Efallai ar y dechrau na fyddwch yn ddidwyll yn eich ymddiheuriadau, ond mae’n cymryd amser i ddod o hyd i’r ffordd, y ffordd sy’n dod â chi tuag at ffurf ar ryddid…

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun