The King's Troop
Fideo byr o Filwyr y Brenin yn y Sioe Frenhinol yn ystod blynyddoedd blaenorol
Y Marchoglu
Mae Marchfagnelau Brenhinol “The King’s Troop” wedi’u lleoli yn St John’s Wood, Llundain. Mae’u dyletswyddau, fel rhan o’r Osgordd, yn cynnwys tanio Saliwtiau Brenhinol ar Ben Blwyddi Brenhinol ac Achlysuron Swyddogol. Mae’r Marchoglu’n darparu car gwn a thîm o geffylau duon ar gyfer angladdau Gwladol a milwrol hefyd. Maent yn cymryd rhan hefyd mewn paredau Dydd y Cadoediad, Sioe’r Arglwydd Faer a Pharêd Pen-blwydd y Frenhines. Yn ogystal, mae’r Marchoglu’n cyflawni dyletswyddau Gosgorddlu’r Frenhines yn y Marchlu am dair wythnos bob blwyddyn.
Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd dilyniant o Fagnelfeydd Marchfagnelau wedi’u lleoli yn Llundain, gyda’r olaf yn cael ei fecaneiddio yn 1939. Dymuniad Ei Fawrhydi'r Brenin Siôr VI oedd y dylai marchoglu o Farchfagnelau Brenhinol, wedi’u mowntio a’u gwisgo yn y dull traddodiadol, gymryd rhan yn seremonïau mawr y Wladwriaeth ar ôl y rhyfel. Yn 1947, archwiliodd Ei Fawrhydi y Marchoglu a oedd newydd ei ffurfio a dywedodd ei fod yn dymuno iddo gael ei adnabod fel “The King’s Troop”.
Pan fydd ar barêd gyda’i ynnau, mae’r Marchoglu’n cael y flaenoriaeth dros bob Catrawd arall.

Y Ceffylau
Mae gan y Marchoglu hyd at 140 o geffylau tîm gwn sy’n cael eu prynu’n bennaf yn Ne Iwerddon a Chymru. Yn ddelfrydol cânt eu prynu’n 5 neu 6 mlwydd oed fel bod eu ffurfiant esgyrn wedi datblygu digon iddynt weithio yn y tîm yn syth ar ôl cael eu torri i mewn. Mae ceffylau’r llinellau rhwng 15’2 a 16’2 dyrnfedd o uchder. Mae’r ceffylau’n cael eu gosod mewn tri chategori: arwain, canol a cheffylau olwyn. Caiff y gwn a’r llorpiau eu tynnu gan dri phâr o geffylau. Y pâr blaen yw’r arweinwyr. Maent yn geffylau talach, mwy beiddgar, athletaidd sy’n gweithredu fel y cyflymydd. Mae’r pâr canol o geffylau ychydig yn llai. Maent yn ychwanegu nerth tynnu ychwanegol ac yn cadw’r tresi oddi ar y llawr. Y pâr olaf yw’r ceffylau olwyn sy’n gweithredu fel breciau’r tîm. Fel arfer maen nhw’n anifeiliaid eithaf byrdew, cryf, grymus gan fod rhaid iddynt stopio’r gwn tunnell a hanner y tu ôl iddynt. Mae’r ceffylau’n cael eu dethol am eu cydffurfiad a’u lliw. Mae hyn yn amrywio o winau golau Isadran A i’r ceffylau duon yn Isadran F.
Mae’r ceffylau’n cael eu hyfforddi yn y lle cyntaf gan ddefnyddio tîm arbenigol o filwyr a hyfforddwyr Marchoglu yng Nghanolfan Anifeiliaid Defence ym Melton Mowbray. Maen nhw’n treulio tri mis yn Swydd Gaerlŷr cyn iddyn nhw gyrraedd Llundain cyn y Nadolig bob blwyddyn. Yr adeg yma cânt eu cyflwyno’n araf i offer milwrol a gwaith harnais. Fe’u hadwaenir fel ‘Ceffylau Cyfnewid’ (‘Remounts’). Unwaith y mae’r Pennaeth Milwrol wedi gweld y Ceffylau Cyfnewid mewn harnais mewn o leiaf ddau rihyrsal Gyriad Cerddorol ac wedi’u barnu’n ddigon medrus, byddir yn cael gwared â’u myngau gyda gwelleifiau (proses sy’n cael ei alw’n docio). Mae hyn yn cyfateb i ymadael â hyfforddiant Rhan Dau fel milwr hyfforddedig. Mae’r milwyr yn cystadlu’n rheolaidd yn yr holl ddisgyblaethau ceffylaidd gan fod hyn yn gwella eu gallu marchogaeth ac yn rhoi gwell amrywiaeth bywyd i’r ceffylau. Unwaith y mae’r ceffylau wedi cyrraedd oed ymddeol (15 mlwydd oed ar gyfartaledd) cânt eu hailgartrefu fel arfer gan gyn-staff y Marchoglu. Ar ôl treulio o leiaf 10 mlynedd yn gweithio yn y Tîm Gwn, mae’r ceffylau’n mwynhau eu hymddeoliad.
Mae gan bob un o’r ceffylau rif Byddin pedwar ffigur ar garn blaen a dau neu dri rhif penodol i’r Marchoglu ar y carn dde ôl. Caiff y rhain eu serio ar y carnau gan y Ffariers ac mae’n rhaid eu hail-losgi wrth i ochr y carn dyfu. Dewisir enwau’r ceffylau gwn i ddechrau â’r un llythyren â llythyren gyntaf cyfenw’r Pennaeth Milwrol yr adeg y prynwyd y ceffyl. Mae ganddyn nhw lysenw hefyd, sy’n cael ei ddefnyddio yn y stablau yn ddyddiol. Mae’r enwau hyn yn unigryw i bob ceffyl ac ni chânt byth eu defnyddio ddwywaith. Rhaid i gadfeirch sefyll yn dalach na 17.2 dyrnfedd.
Fideo byr o Filwyr y Brenin yn y Sioe Frenhinol yn ystod blynyddoedd blaenorol
Y Gynnau
Mae’r gynnau ar barêd yn rhai 13 pwys a buont i gyd ar waith yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae pob gwn a llorpiau’n pwyso 1.5 tunnell a gyda’r tîm maent yn tua 54 troedfedd o hyd. Caiff pob gwn ei dynnu gan chwe cheffyl, y tri ar yr ochr i mewn yn cael eu marchogaeth, tra bo’r tri ar yr ochr allan yn cael eu dal mewn llaw gan y joci ochr i mewn, sy’n cael ei adnabod fel y Gyrrwr. Mae’r pâr yn y tu blaen yn gweithredu fel y cyflymydd a’r pâr yn y cefn, y breciau. Mae Gynnwr Blaen o bob Isadran yn gofalu am bob gwn. Eu cyfrifoldeb nhw yw cynnal a chadw’r gwn a’i droi allan/mas i’r safon ofynnol ar barêd.
Marchogaeth mewn Cystadlaethau
Mae marchogaeth mewn cystadlaethau yn gwella perfformiad y ceffyl a’r marchog ar barêd. Caiff y milwyr eu hannog i gymryd rhan ac mae ceffylau a milwyr “The King’s Troop RHA” yn cymryd rhan mewn treialon ceffylau, rasys tîm, gornestu un diwrnod, treialon ceffylau hela a gornestau neidio ceffylau.
Bu nifer o geffylau a marchogion adnabyddus yn y Marchoglu. Yng Ngemau Olympaidd 1964 yn Tokyo, roedd tîm gornest tri diwrnod Prydain yn cael ei reoli gan Frank Weldon (cyn-Gapten Tîm Medal Aur Olympaidd) a oedd yn arfer rheoli’r Marchoglu.
O’r pedwar marchog, un oedd y Capten James Templer, Cadlywydd Adran. Mae iddo ef yr arbenigrwydd o ennill y ddwy brif Ornest Tri Diwrnod yn y DU - 1962 yn Burghley a 1964 yn Badminton. Un arall oedd y Sarsiant Ben Jones gyda’i geffyl Marchoglu enwog ‘Master Bernard.’ Aeth y Siarsiant Jones yn ei flaen yn y diwedd i ennill Medal Aur yn y Gemau Olympaidd ym Mecsico yn 1968.
Gyrfa gyda “The King’s Troop”
Yn nodweddiadol mae milwyr sy’n ymuno â “The Troop” yn treulio eu deunaw mis cyntaf yn gweithio gyda’r ceffylau yn y llinellau. Yn ystod y cyfnod hwn cânt eu hyfforddi mewn rheoli stablau a marchogwriaeth er mwyn iddynt gyrraedd y safon ofynnol i farchogaeth ar barêd. Ar ôl y deunaw mis cyntaf, fe all milwyr gael eu ffrydio yn dibynnu ar eu gallu a’u dymuniadau. Mae rhai’n parhau i weithio’n uniongyrchol gyda’r ceffylau, gan symud ymlaen i farchogaeth yn y tîm Gwn, tra bo eraill yn symud i weithio o fewn crefft gysylltiedig: mae gan “The Troop” fintai lawn o ffariers, cyfrwywyr a theilwriaid. Pa bynnag lwybr a ddewisant, mae pob milwr yn cael y cyfle i barhau i farchogaeth a chystadlu’n rheolaidd. Er bod peth gwybodaeth am geffylau’n fuddiol cyn ymuno â “The Troop”, y prif ofynion yw dyhead i ddysgu, hoffter o geffylau a pharodrwydd i weithio’n galed. Mae gyrfa filwrol amrywiol a diddorol yn bosibl gan fod “The Troop” yn atgyfnerthu Catrodau Magnelau Brenhinol eraill yn rheolaidd wrth ymarfer ac ar ymgyrchoedd. Mae milwyr y Marchoglu wedi gwasanaethu yn Afghanistan, Iraq, Kosovo, Cyprus a Gogledd Iwerddon.
top printiwch