Meysydd Parcio
Llwybrau Traffig a Pharcio a Theithio

Er mwyn sicrhau llif rhwydd traffig i’r Sioe, gofynnir i ymwelwyr ddefnyddio’r ffyrdd a argymhellir. Cofiwch – bydd eich cydweithrediad â’r Marsialyddion Rheoli Traffig yn lleihau oedi.
Egwyddor sylfaenol y rheoli traffig yw y bydd traffig yn cael ei gyfeirio i barcio’n agos i’r ffordd ddynesu bydded honno'n A483 o’r De-Orllewin, yr A470 o’r De-Ddwyrain, yr A470 o’r Gogledd-Orllewin, yr A483 o’r Gogledd-Ddwyrain neu’r A481 o’r Dwyrain.
Sylwch os gwelwch yn dda mai dim ond cerbydau sy’n arddangos labeli swyddogol y Gymdeithas fydd yn cael mynd i’r meysydd parcio blaen sydd wedi eu cadw ar gyfer Arddangoswyr Da Byw a Masnach, Beirniaid a Stiwardiaid a’r Anabl. Bydd disgwyl i bob un ymwelydd barcio yn y meysydd parcio pellach a theithio i faes y sioe ac yn ôl ar y Bws Wennol.
Er mwyn osgoi tagfeydd bydd ymwelwyr heb basys cerbydau penodol yn cael eu parcio yn y maes parcio cyntaf sydd ar gael wrth iddynt nesu at Faes y Sioe.
Rhaid i ymwelwyr gyda phasys cerbydau penodol osod y rhain yn glir ym mhen uchaf canol y ffenestr flaen. Os oes gan ffenestr flaen y cerbyd fand arlliw yna gofynnir i ymwelwyr osod y pàs oddi tan y band. Os nad yw pasys wedi’u harddangos yna bydd y Marsialyddion Rheoli Traffig yn parcio’r ymwelwyr yn y maes parcio cyntaf sydd ar gael.
Bydd blaenoriaeth ar gyfer parcio blaen ond yn cael ei rhoi i’r rheini sy’n arddangos pasys cerbydau.
Gofynnir i ymwelwyr ddilyn cyfarwyddiadau’r Marsialyddion Rheoli Traffig ac i beidio â chwestiynu eu hawdurdod. Er mwyn llif y traffig gofynnir ichi beidio â siarad â’r Marsialyddion.
GOGLEDD-ORLLEWIN CYMRU - Ynys Môn, Conwy a Gwynedd - Rhaid i fodurwyr o Ogledd-Orllewin Cymru ddefnyddio ffordd yr A470 drwy Raeadr i Ogledd 18 (Fferm Graig Goch, Cwmbach). Bydd gwasanaeth Bws Gwennol yn rhedeg yn ôl a blaen i faes y sioe.
GOGLEDD-DDWYRAIN CYMRU - Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Gogledd Powys – Dylai modurwyr o Ogledd-Ddwyrain Cymru deithio ar ffordd yr A483 drwy Landrindod i faes parcio Gogledd 17 (Fferm Neuadd, Hawau). Bydd gwasanaeth Bws Gwennol yn rhedeg yn ôl a blaen i faes y sioe.
CANOLBARTH CYMRU (GORLLEWIN) - Bydd modurwyr o ardal Aberystwyth/Aberdyfi yn defnyddio ffordd yr A487 i Gapel Bangor a ffyrdd yr A44 a’r A470 drwy Raeadr i Ogledd 18. (Fe all modurwyr o ardal Ceinewydd ac Aberaeron ei chael hi’n gyfleus defnyddio’r un llwybr). Bydd gwasanaeth Bws Gwennol yn rhedeg yn ôl a blaen i faes y sioe.
CANOLBARTH CYMRU (DWYRAIN) - Bydd modurwyr o Drefyclo a Llanandras yn defnyddio’r A481 ac yn parcio yng Ngogledd 16 (Wernhalog). Bydd gwasanaeth Bws Gwennol yn rhedeg yn ôl a blaen i faes y sioe.
DE-ORLLEWIN CYMRU - Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro - Mae modurwyr o Dde-Orllewin Cymru i ddefnyddio ffyrdd yr A487 a’r A484 drwy Gastellnewydd Emlyn a’r A475 i Lanbedr Pont Steffan yna’r A482 a’r A483 drwy Lanwrtyd. Mae modurwyr o Aberdaugleddau i ddefnyddio’r A407, Penfro yr A477 a Dinbych-y-pysgod yr A478 i ymuno â’r A40 drwy Lanymddyfri ac yna’r A483. Dylai’r rheini ar yr A483 ymuno â’r A40 yn Llandeilo ac yna’r A483 o Lanymddyfri i Lanfair ym Muallt. Bydd y parcio ym maes parcio De 3 (Wernfawr) a bydd gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg yn ôl a blaen i faes y sioe. Bydd modurwyr o Gwm Tawe yn defnyddio’r A4067 i Bontsenni ac yna’r A40 i Aberhonddu a’r A470 i Lanfair ym Muallt. Bydd modurwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn yn cael eu cyfeirio i faes parcio De 1 ac yn teithio ar y bws gwennol i Faes y Sioe. Dylai modurwyr nodi efallai y cânt eu dargyfeirio ger Errwd i’r B4567 i faes parcio Gogledd 15 ac yna ar y bws gwennol i Faes y Sioe.
DE-ORLLEWIN CYMRU - Dylai modurwyr o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ddilyn yr M4 a’r A48 i Crosshands, yr A476 i Landeilo, yr A40 i Lanymddyfri a’r A483 i Lanfair ym Muallt, parcio ym maes parcio De 3 (Wernfawr) a theithio ar y bws gwennol i Faes y Sioe.
DE CYMRU (CANOL) - Pen-y-Bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful a Chaerffili - Dylai modurwyr o’r ardaloedd hyn deithio ar yr A470 i faes parcio De 1 ac yna ar y bws gwennol i Faes y Sioe. Dylai modurwyr ar y llwybr hwn nodi efallai y cânt eu dargyfeirio ger Errwd i’r B4567 i faes parcio Gogledd 15 ac yna ar y bws gwennol i Faes y Sioe.
DE-DDWYRAIN CYMRU - Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy - Dylai modurwyr o’r ardaloedd hyn deithio drwy Gilwern a Chrucywel ac yna ar hyd ffyrdd yr A479 a’r A470 i faes parcio De 1 ac yna ar y bws gwennol i Faes y Sioe. Dylai modurwyr ar y llwybr hwn nodi efallai y cânt eu dargyfeirio ger Errwd i’r B4567 i faes parcio Gogledd 15 ac yna ar y bws gwennol i Faes y Sioe.
COETSHIS – yn cael eu parcio yn y Maes Parcio Coetshis, Iard yr Orsaf.

Gwasanaeth Parcio & Theithio
Gwasanaeth Parcio a Theithio = PRS
Yn rhedeg o 7.30 am tan 9.30 pm – Dydd Llun 21ain Gorffennaf – Dydd Iau 24ain Gorffennaf
| MAN CODI | MANNAU GOLLWNG A DYCHWELYD |
| Yr Orsaf Reilffordd Maes Parcio N18 | Maes Marcio N6 (Defnyddiwch Fynedfa B) |
| Meysydd Parcio N15, N16, N17 | Maes Parcio N2 (Defnyddiwch Fynedfa D) |
| Maes Parcio S1 | Mynedfa Peiriannau (O 6.30 pm dydd Iau 24ain Gorffennaf bydd y gwasanaeth dychwelyd yn rhedeg o’r Maes Parcio Coetshis) |
| Maes Parcio S2 (Smithfield) | Maes Parcio Coetshis (Defnyddiwch Fynedfa A) |
| S3 (Wernfawr) | Maes Parcio Coetshis (Defnyddiwch Fynedfa A) |
ANABL
Dim ond y cerbydau hynny sy’n arddangos sticer anabledd cydnabyddedig CAFC (pàs maes parcio pobl anabl CAFC) fydd yn cael blaenoriaeth ac yn cael parcio ym maes parcio Gogledd 5. Bydd cerbydau sy’n arddangos sticer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu parcio yn y maes parcio cyntaf sydd ar gael ble bydd llecyn blaen wedi’i gadw a gwasanaeth parcio a theithio yn cael ei ddarparu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn arddangos eich sticer Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir os gwelwch yn dda.
Bydd maes parcio Gogledd 5 yn cael ei gadw ar gyfer y bobl hynny sydd wedi derbyn pàs maes parcio Pobl Anabl CAFC. Os oes angen pàs pobl anabl y Gymdeithas arnoch gwnewch gais i CAFC gan roi manylion eich anabledd ac anfon copi o sticer pobl anabl y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gwasanaeth bws i’r anabl yn rhedeg yn ôl a blaen i’r maes parcio rhwng 7.30 a.m. a 9.30 p.m.
Bydd cerbydau sy’n arddangos sticer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu cyfeirio fel a ganlyn:~
DE-DDWYRAIN - Bydd ymwelwyr anabl o’r De-Ddwyrain sy’n teithio ar yr A470 yn cael eu cyfeirio i feysydd parcio De 1 / Gogledd 15 ble bydd llecynnau blaen wedi’u cadw. Bydd gwasanaeth bws i’r anabl yn rhedeg yn ôl a blaen i Faes y Sioe.
DE-ORLLEWIN - Bydd ymwelwyr anabl o’r De-Orllewin sy’n teithio ar yr A483 yn cael eu cyfeirio i faes parcio De 3 (Wernfawr) ble bydd llecyn blaen wedi’i gadw. Bydd gwasanaeth bws i’r anabl yn rhedeg yn ôl a blaen i Faes y Sioe.
DWYRAIN - Bydd ymwelwyr anabl o’r Dwyrain sy’n teithio ar yr A481 yn cael eu cyfeirio i lecyn blaen ym maes parcio Gogledd 16. Bydd gwasanaeth bws i’r anabl yn rhedeg yn ôl a blaen i Faes y Sioe.
GOGLEDD-DDWYRAIN - Bydd ymwelwyr anabl o’r Gogledd-Ddwyrain sy’n teithio ar yr A483 yn cael eu cyfeirio i lecyn blaen ym maes parcio Gogledd 17. Bydd gwasanaeth bws i’r anabl yn rhedeg yn ôl a blaen i faes y sioe.
GOGLEDD-ORLLEWIN - Bydd ymwelwyr anabl o’r Gogledd-Orllewin sy’n teithio ar yr A470 yn cael eu cyfeirio i lecyn blaen yng Ngogledd 18. Bydd gwasanaeth bws i’r anabl yn rhedeg yn ôl a blaen i faes y sioe.
TYWYDD GWLYB
Os digwydd i’r tywydd fod yn wlyb fe all fod angen cyfeirio rhai sy’n dal pasys cerbydau arbennig/blaen i feysydd parcio wrth gefn/fannau eraill. Petai angen gwneud hyn yna byddem yn gwerthfawrogi cydweithrediad y rhai sy’n dal y pasys hyn yn fawr.