Ardal Gofal Cefn Gwlad
Estynnir croeso cynnes i bob ymwelydd â’r Sioe yn 2009 ymweld â’r ardal Gofal Cefn Gwlad.
Mae’r ardal wedi dod yn fwyfwy pwysig yn y blynyddoedd diwethaf; mae’n dod â chyrff a sefydliadau perthnasol at ei gilydd i gyflwyno golwg gydlynol a chytbwys ar faterion amgylcheddol a’r polisïau sydd a wnelo â sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael am yr amgylchedd, cefn gwlad, hamdden, treftadaeth a chynhyrchu bwyd organig ac amrywiaeth eang o ddiddordeb i ffermwyr, y rheini sydd a wnelo â chefn gwlad, y cyhoedd a phlant.
Bydd y sefydliadau canlynol yn bresennol:
ADAS | ![]() |
Bydd ADAS yn rhoi lle amlwg yn Sioe Frenhinol Cymru eleni i "Cynhyrchu effeithlon yn yr amgylchedd" gan edrych ar beth y mae angen i ffermwyr ei ystyried wrth reoli tir glas a chynnal adeiledd a ffrwythlondeb pridd da ar gyfer y cynhyrchu gorau posib. Byddai hyn yn cydbwyso arfer ffermio da â’r angen i reoli cynefinoedd a chynnal bioamrywiaeth, o fewn y system ffermio a ddilynir.
CADW | ![]() |
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn gweithio dros amgylchedd hanesyddol hygyrch, sydd dan warchodaeth dda, i Gymru. Mae Cadw yn falch o ddathlu chwarter canrif o warchod a hyrwyddo gweithredol ar amgylchedd hanesyddol Cymru yn 2009. Bydd arddangosfa newydd i nodi’r llu o bethau nodedig a gyflawnwyd dros y 25 mlynedd ddiwethaf yn cael ei lansio yn Sioe Frenhinol Cymru ynghyd â ffilm 30 munud a grëwyd yn arbennig i nodi’r achlysur.
CALU | |
Partneriaeth yw CALU, y Ganolfan Defnydd Tir Amgen, rhwng prif arbenigwyr Cymru mewn rheoli tir yn ADAS, Prifysgol Bangor, Coed Cymru, Coleg Llysfasi, Coleg Garddwriaeth Cymru ac IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae CALU yn gweithio i gefnogi trosglwyddo gwybodaeth i ddefnyddwyr a rheolwyr tir yng Nghymru i sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o dechnegau cynaliadwy ac arfer gorau. Mae CALU yn cyflenwi rhaglen datblygu trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio ar gyfer rheoli tir.
Yn Sioe Frenhinol Cymru 2009 bydd CALU yn arddangos amrywiaeth o gnydau, prosiectau a phynciau. Bydd y rhain yn cynnwys tatws sy’n gwrthsefyll malltod, ydau, madarch a chnydau garddwriaethol. Bydd yna ddetholiad o daflenni ffeithiau ar gael o’r stondin hefyd yn ymwneud ag amryw bynciau a bydd arbenigwyr o’r sefydliadau sy’n bartneriaid inni ar gael i ddarparu cyngor ac i ateb ymholiadau.
I gael mwy o wybodaeth am CALU a digwyddiadau sydd ar ddod yn eich ardal chi ewch i www.calu.bangor.ac.uk.
Neu fel arall ffoniwch 01248 680450 neu e-bostio calu@bangor.ac.uk
CANOLFAN ECOLEG |
Mae’r Centre for Ecology & Hydrology yn rhan o’r Natural Environment Research Council. Rydym yn darparu monitro amgylcheddol tymor hir a seilwaith ymchwil o’r radd flaenaf sy’n ein galluogi i gyflenwi atebion ymarferol fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu manteisio ar amgylchedd cyfoethog ac iach.
Mae’n sgiliau a’n harbenigedd yn amrywio o’r raddfa leiaf (y genyn) i’r raddfa fwyaf (systemau Daear gyfan). Mae ein gwyddoniaeth yn mynd i’r afael â chwestiynau amgylcheddol mewn modd cyfannol, gan gyfuno disgyblaethau gwyddonol a gallu modelu.
Mae’n presenoldeb rhanbarthol a’n rhwydwaith helaeth o safleoedd maes arbrofol a monitro tymor hir yn cynnig mynediad at ecosystemau amrywiol, gan ein galluogi i ddarparu Gallu Cenedlaethol.
Mae’n gorsaf ymchwil ym Mangor, Gogledd Cymru wedi’i lleoli yn yr Environment Centre Wales (ECW), adeilad ecogyfeillgar a ariannwyd trwy gyfrwng partneriaeth rhwng Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a Phrifysgol Bangor. Mae’r ymchwil a wneir ym Mangor yn rhan o’r Rhaglen Wyddoniaeth ledled CEH, yn trin meysydd Bioamrywiaeth, Dŵr a Biogeocemeg. Mae’r pynciau’n cynnwys effeithiau llygredd aer, newid yn yr hinsawdd a defnydd tir ar wasanaethau ecosystem, gyda ffocws arbennig ar asideiddio ac ewtroffeiddio; carbon; gwyddor dalgylchoedd; ymchwil arfordirol; llwythi critigol; gwyddor ecosystemau; ac osôn.
CYNGOR CEFN GWLAD CYMRU | |
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, sy’n gweithio dros well Cymru ble mae pawb yn trysori ac yn gofalu am ei amgylchedd naturiol.
Eleni, mae’r Deyrnas Unedig yn dathlu 60 mlynedd o gadwraeth natur a mynediad i gefn gwlad.
Dewch draw i stondin CCGC i gael gwybod mwy am y llu o gyfleoedd amrywiol i fwynhau cefn gwlad ac arfordir Cymru. Bydd staff arbenigol ar gael hefyd i drafod materion rheoli tir.
ASIANTAETH YR | |
Yn Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda’r gymuned amaethyddol i helpu i greu gwell amgylchedd. Mae ffermio da o fudd hefyd i incwm fferm, i’r amgylchedd a’r economi wledig. Eleni, bydd ein prif stondin yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad yn canolbwyntio ar yr elw y gall ffermwyr ei wneud o arfer amgylcheddol da. Bydd gennym gyfres o arddangosiadau ymarferol i ddangos i ffermwyr sut i reoli eu pridd a maethynnau yn well. Byddwn hefyd yn dangos manteision defnyddio dŵr yn effeithlon a sut y gall hyn arbed arian i ffermwyr.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar sut y gall ffermwyr arbed arian, byddwn yn hyrwyddo’r ffyrdd y gall pawb fwynhau amgylchedd y dŵr. Mae gweithgareddau’n gysylltiedig â dŵr, megis genweirio, canŵio a hwylio, yn creu incwm anferthol i Gymru wledig.
Bydd llawer o gemau rhyngweithiol, cystadlaethau a gwobrau ar ein stondin, felly dewch draw i ymweld ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn y sioe.
I gael gwybod mwy am Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, ewch i’n gwefan:
http://www.environment-agency.gov.uk/
GRŴP CYNGHORI AR FFERMIO A BYWYD GWYLLT, | |
Mae FWAG Cymru yn cynnig cyngor rheoli amgylcheddol i ffermwyr ledled Cymru. Corff annibynnol, a arweinir gan ffermwyr ydyw. Mae’i brif gategori aelodaeth, FWAG Cyntaf yn apelio’n arbennig at ffermwyr masnachol sy’n chwilio am arweiniad ar drawsgydymffurfio, cynlluniau amaeth-amgylchedd, rheolaeth tom/tail a gwrtaith, rheolaeth pridd a dŵr a phob agwedd ar warchod natur. Mae FWAG yn cynorthwyo ffermwyr gyda’r cynlluniau Tir Cynnal a Tir Gofal presennol yn ogystal â pharatoi at y cynllun Glastir a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
IBERS – PRIFYSGOL ABERYSTWYTH
Mae croeso cynnes yn aros ffermwyr yn IBERS
Mae IBERS yn gweithio gyda ffermwyr ledled Cymru, yn ymgymryd ag ymchwil arloesol sy’n anelu’n uniongyrchol at greu atebion ymarferol i broblemau sy’n wynebu Cymru a gweddill y byd.
Galwch heibio inni ym Mhafiliwn IBERS yn yr ardal Gofal Cefn Gwlad i gael gwybod mwy am sut y mae’n hymchwil yn troi’n atebion go iawn ar gyfer:
• Gwella cynhyrchu bwyd a’i ansawdd
• Datblygu amaethyddiaeth gynaliadwy
• Helpu i addasu i newid yn yr hinsawdd ac ymladd yn erbyn ei effeithiau
Mae tîm IBERS ar gael gydol yr wythnos i ateb eich cwestiynau ac i ddweud mwy wrthych am weithgaredd ymchwil sy’n berthnasol i chi dros gwpanaid o de neu goffi.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Sioe.
Sefydlwyd IBERS o fewn Prifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2008, yn ymgorffori IGER ac mae’n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu o safon fyd-eang mewn gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Ymchwil.
| ![]() |
Mae’r babell Bwyd a Ffermio Organig yn dod â llawer o sefydliadau a chwmnïau sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth i ffermwyr ac i ddefnyddwyr ynghylch bwyd a ffermio organig yng Nghymru at ei gilydd. Gall ymwelwyr fwynhau ein lletygarwch organig yn rhad ac am ddim tra byddant yn ymweld ag arddangosion Canolfan Organig Cymru a thri sefydliad ardystio - Cymdeithas y Pridd, Ffermwyr a Thyfwyr Organig ac Ardystio Bwyd Cymreig o Ansawdd. Bydd ymgynghorwyr a chynghorwyr o ADAS Cymru a’r Gwasanaeth Cynghori Organig ar gael a bydd staff o IBERS yn cynnig gwybodaeth am reoli tir glas organig. Bydd cynrychiolwyr o Graig Producers, Clwb Organig Gwartheg Duon Cymreig a chwmnïau eraill sy’n prynu a marchnata cynnyrch organig yn bresennol hefyd. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Canolfan Organig Cymru, (01970) 622248.
RSPB CYMRU | |
Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, sy’n codi llais dros adar a bywyd gwyllt, gan fynd i’r afael â’r problemau sy’n bygwth ein hamgylchedd. Ymunwch â ni yn ein stondin yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad i gael gwybod mwy am adar a bywyd gwyllt yng Nghymru. Sgwrsiwch â’n tîm cynghori neu cymerwch sbec ar yr anrhegion yn ein siop. Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yn elusen gofrestredig: Cymru a Lloegr rhif 207076, Yr Alban rhif SC037654
COMISIWN BRENHINOL | |
| HENEBION CYMRU | |
Eleni bydd gan stondin y Comisiwn Brenhinol nifer o arddangosfeydd a digwyddiadau yn amlygu ei waith yn cofnodi ac yn gwneud arolygon o dreftadaeth adeiledig Cymru, gyda delweddau o’r archif cenedlaethol yn ymwneud â safleoedd archeolegol, adeiladau a thirweddau hanesyddol. I ddathlu Morgannwg fel sir nawdd eleni, bydd Dr Toby Driver, Ymchwilydd o’r Awyr yn y Comisiwn Brenhinol, yn rhoi sgwrs ar Forgannwg o’r Awyr ar ddydd Llun 20 Gorffennaf am 3 y prynhawn. Ar ddydd Iau 23 Gorffennaf am 1 y prynhawn bydd Deanna Groom, ein Swyddog Morwrol, yn rhoi sgwrs ar y Trysorau o dan y Môr ger arfordir Morgannwg. Ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, bydd archeolegwyr y Comisiwn Brenhinol, Louise Barker a Susan Fielding yn arddangos rhywfaint o’r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir wrth arolygu safleoedd ac adeiladau archeolegol. Ymunwch â ni i gael gwybod mwy am Hanesion Cudd Cymru.
YMDDIRIEDOLAETHAU NATUR CYMRU | |
Dewch wyneb yn wyneb ag ychen afon Asiaidd ar stondin Ymddiriedolaethau Natur Cymru!
Bydd buwch a llo yn helpu i ddangos sut y mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn pori eu tir gan ddefnyddio amryw o anifeiliaid - brodorol ac anfrodorol - i greu "Tirweddau Byw" er lles pobl a bywyd gwyllt.
Mae tair o’r chwe Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn dewis defnyddio ychen yr afon i bori gwarchodfeydd gwlyptir gan eu bod yn ddelfrydol o addas ar gyfer y gwaith. Maent yn anifeiliaid caled ac yn fwytawyr di-lol gyda hoffter o brysgwydd a llystyfiant arall y mae llawer o anifeiliaid yn ei gael yn annymunol.
Mae’r fuwch a llo neilltuol yma yn rhan o yr sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn ac sy’n byw fel arfer ar warchodfa natur Cors Dyfi ym Machynlleth. Gyda’i gilydd, mae’r Ymddiriedolaethau’n rheoli mwy na 5,440hectar o dir ar draws Cymru, ac yn gweithio gyda thirfeddianwyr eraill ar brosiectau ar y cyd. Bydd staff cadwraeth ar y stondin gydol yr wythnos i gynnig cyngor i ffermwyr a thyddynwyr sydd â diddordeb mewn cynnal eu tir eu hunain mewn ffordd sy’n gyfeillgar at fywyd gwyllt.
STONDINAU ERAILL
Yn ogystal â’r uchod mae nifer o stondinau eraill fel a ganlyn:
AEOLUS POWER - ynni adnewyddadwy
DYFRFFYRDD PRYDAIN - manylion dyfrffyrdd Cymru a’r gororau
ENERGY NOW - Yn cynnig atebion ynni adnewyddadwy.
ENFINITY WIND - cwmni fferm wynt o Wlad Belg
ENVIRONMENTAL COMPACT
Y GYMDEITHAS PLYGU GWRYCH GENEDLAETHOL - plygu gwrych ar y safle
NUON RENEWABLE - ynni adnewyddadwy
TROCHI MEWN PYLLAU - gydag Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed
DYFRGWN - Dyfrgwn teledu bythol-boblogaidd gyda Daphne Neville
YMDDIRIEDOLAETH GOROESIAD ADAR CÂN
Y GYMDEITHAS CODI WALIAU SYCH - adeiladu waliau cerrig traddodiadol ar y safle
WWW CYMRU - cangen Cymru yr elusen amgylcheddol fyd-eang
top printiwch


