Ardal Gofal Cefn Gwlad
Estynnir croeso cynnes i’r holl ymwelwyr â’r Sioe yn 2010 ymweld â’r ardal Gofal Cefn Gwlad.
Mae’r ardal wedi dod yn fwyfwy pwysig yn y blynyddoedd diwethaf; mae’n dod â chyrff a sefydliadau perthnasol at ei gilydd i gyflwyno golwg gydlynol a chytbwys ar faterion amgylcheddol a pholisïau sydd a wnelo â sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Mae yna gyfoeth o wybodaeth ar gael am yr amgylchedd, cefn gwlad, hamdden, treftadaeth a chynhyrchu bwyd organig ac amrywiaeth eang o ddiddordeb i ffermwyr, y rheini sydd a wnelo â chefn gwlad, y cyhoedd a phlant.
Bydd y sefydliadau canlynol yn bresennol:
Dyfrffyrdd Prydain |
|
Dyfrffyrdd Prydain - sy’n rheoli pedair prif gamlas Cymru: Trefaldwyn bictiwrésg, Sir Fynwy ac Aberhonddu ddiarffordd, Abertawe dawel a Llangollen brysur, sef y gamlas Brydeinig yr ymwelir â hi fwyaf, sydd wedi’i lleoli o fewn Safle Treftadaeth Byd diweddaraf y wlad.
Mae dyfrffyrdd Cymru yn cyfrannu dros £30m i’r economi bob blwyddyn, gan ddenu’n agos at wyth miliwn o ymwelwyr a chynnal cannoedd o swyddi’n gysylltiedig â thwristiaeth.
Mae ein dyfrffyrdd yn gyfoethog eu treftadaeth, yn doreithiog eu bywyd gwyllt ac yn fyw o ddiwylliant. Cymerwch amser i gyfarfod â’n tîm a gweld yn uniongyrchol sut ydym yn datgloi eu potensial economaidd yn ofalus tra byddwn yn diogelu eu treftadaeth amhrisiadwy.
CALU |
|
Partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, ADAS, Coed Cymru, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol Aberystwyth a Choleg Llysfasi yw CALU (The Centre for Alternative Land Use) neu’r Ganolfan Defnydd Tir Amgen. Mae’r arweinwyr hyn ym maes ymchwil a datblygu wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod y wyddoniaeth a’r wybodaeth sy’n sail i ddefnydd tir cynaliadwy yn cael ei darparu ar gyfer pawb. Mae CALU’n canolbwyntio ar yr hyn a ystyrir yn ddefnydd tir llai traddodiadol, yn hytrach na’r prif gynhyrchion traddodiadol, sef cynhyrchu ŵyn, gwartheg bîff a gwartheg llaeth. Y prif feysydd pwnc y mae CALU’n gweithio ynddynt yw: garddwriaeth; rheoli coetir; cnydau heb fod yn fwyd; dofednod; moch; geifr; bio-ynni. Mae gan wefan CALU gyfoeth o wybodaeth ar gael yn rhwydd i bawb ei lawrlwytho am yr holl bynciau hyn. Mae CALU hefyd yn darparu gweithdai a seminarau ar draws Cymru gyfan - mwy o fanylion ar y wefan: www.calu.bangor.ac.uk
Mae CALU’n cyflenwi Rhaglen Rheoli Tir Llywodraeth Cynulliad Cymru i Cyswllt Ffermio.
Canolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) |
Mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) yn un o bedair canolfan ymchwil gwyddonol gyhoeddus Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol gyda gorsafoedd ymchwil ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym yn darparu cyngor sy’n ddiduedd, annibynnol, ac arloesol i ddatrys problemau amgylcheddol mwyaf taer heddiw fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu elwa ar amgylchedd cyfoethog ac iach.
Mae’n presenoldeb rhanbarthol a’n rhwydwaith helaeth o safleoedd maes monitro tymor hir ac arbrofol yn rhoi mynediad at ecosystemau amrywiol, gan ein galluogi i ddarparu Gallu Cenedlaethol hanfodol.
Mae’n gorsaf ymchwil ym Mangor, Gogledd Cymru wedi’i lleoli yng Nghanolfan Amgylchedd Cymru (ECW). Mae’r ymchwil a wneir ym Mangor yn rhan o’r Rhaglen Wyddoniaeth ledled CEH, yn ymdrin â meysydd Bioamrywiaeth, Dŵr a Biogeocemeg.
Eleni byddwn yn edrych ar y sialensau yr ydym i gyd yn eu hwynebu i sicrhau bod tir yn ein cyflenwi â bwyd a ffibr, dŵr glân a lle i storio carbon. Sut ydym yn cydbwyso’r anghenion hyn yng Nghymru? Byddwn yn archwilio’r opsiynau sydd ar gael a’r penderfyniadau sy’n rhaid inni eu gwneud.
Pabell Energy Now
Bydd DJ Media, cyhoeddwyr cylchgrawn Energy Now, yn cyflwyno pabell ynni adnewyddadwy yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, wedi’i chynllunio i glustnodi ac egluro’r cyfleoedd ynni adnewyddadwy sydd ar gael i ffermwyr a thirfeddianwyr. Bydd y babell yn amlygu pob un o’r gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy ac yn cynnwys enghreifftiau o’r technolegau sydd dan sylw. Bydd arbenigwyr wrth law i drafod gofynion unigol yn fwy manwl. Bydd y babell yn cynnwys y sefydliadau canlynol:
Energy Now
www.energy-now.co.uk
Trefnwyr y babell; cylchgrawn Energy Now yw’r cyhoeddiad deufisol a ddarllenir gan ffermwyr a thirfeddianwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae’r cylchgrawn yn edrych ar newyddion a datblygiadau o’r sectorau gwynt, dŵr, solar, bio-màs, bionwy, biodanwydd a gwresogi â gwres o’r ddaear, gan roi cyfarwyddyd ymarferol ar greu eich ynni eich hunain. Bydd copïau am ddim o’r cylchgrawn ar gael o’r babell.
7Y Services Ltd
www.7y.co.uk
Yn ymgynghoriaeth flaengar, mae 7Y yn gallu cynnig cyngor ac arbenigedd ynni adnewyddadwy sy’n annibynnol a diduedd, gan ddarparu strategaeth sy’n gweddu orau i anghenion eich busnes. Mae 7Y yn ymfalchïo hefyd mewn cyfoeth o brofiad wrth sicrhau cyllid grant.
Ardenham Energy Ltd
www.ardenhamenergy.co.uk
Yn arbenigwr yn y sector solar, mae Ardenham Energy yn gontractwr peirianyddol/osodwr systemau pv trydan solar a systemau thermol a gymeradwywyd gan yr MCS, yn cynnwys gwaith mewn gosodiadau masnachol, sector cyhoeddus a domestig.
Countrywide Farmers PLC
www.countrywidefarmers.co.uk
Yn arbenigo mewn bio-màs, mae Countrywide yn cynnig bwyleri bio-màs at ddefnydd domestig a masnachol, cynllunio, trin a chynnal a chadw prosiectau cyflawn, peledi ac asglodion pren, yn ogystal ag opsiynau cyllid drwy’u hisadran rheoli asedau.
Gilbert Gilkes & Gordon Ltd
www.gilkes.com
Yn arbenigwr yn y sector ynni dŵr, mae Gilbert Gilkes & Gordon yn wneuthurwr ac yn gyflenwr offer tyrbinau trydan dŵr ac offer ategol, gan osod cynlluniau dŵr dros bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac mewn hyd at 80 o wledydd ledled y byd.
WELtec BioPower GMBH
www.weltec-biopower.de
Yn rym arweiniol yn y sector bionwy, mae WELtec BioPower yn cynllunio ac yn cynhyrchu peiriannau bionwy cyflawn wedi’u gwneud o ddur gwrthstaen ac yn eu dosbarthu ledled y byd, gan gynnig atebion troi gwastraff organig yn ynni, o’r cynllunio drwodd i osod a thrin.
Elusennau Amgylchedd Cymru
Eleni mae Cadw Cymru’n Daclus yn edrych ymlaen at ddarparu pabell ar gyfer elusennau amgylcheddol yn Sioe Frenhinol Cymru. Roedd y babell yn cael ei hadnabod o’r blaen fel y ‘babell Cytundeb Amgylcheddol’ ac mae wedi’i lleoli o fewn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad. Bydd pabell ‘Elusennau Amgylchedd Cymru’ yn rhoi cyfle i elusennau fod â phresenoldeb yn y sioe am bris fforddiadwy. Mae bod â mudiadau o gyffelyb anian i gyd gyda’i gilydd mewn 1 pabell â llawer o fanteision, a bydd ymwelwyr â maes y sioe yn gallu gweld amrywiaeth eang o brosiectau amgylcheddol rhagorol yr ymgymerir â nhw yng Nghymru dan un to.
Mae’r partneriaid yn y babell yn cynnwys Cadw Cymru’n Daclus, Cymdeithas Eryri ac Amgylchedd Cymru a byddant i gyd yn hyrwyddo eu gweithgareddau drwy amrywiaeth o arddangosiadau ymarferol, arddangosfeydd a rhyngweithio.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru |
|
Mae mwy na 80 y cant o Gymru yn dir amaethu felly mae gan ffermwyr ddylanwad mawr ar wella’r amgylchedd dŵr. Yn Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda’r gymuned ffermio i helpu i greu gwell amgylchedd. Mae ffermio da o fudd i incwm fferm, yr amgylchedd a’r economi wledig hefyd. Eleni, bydd ein stondin yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad yn canolbwyntio ar yr elw y gall ffermwyr ei wneud o arferion amgylcheddol da. Bydd gennym gyngor ar sut y gall ffermwyr reoli eu pridd a’u maethynnau yn well ac ychwanegu at eu helw.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar sut y gall ffermwyr arbed arian, byddwn yn hyrwyddo’r ffyrdd y gall pawb fwynhau eu hamgylchedd dŵr. Dewch i wylio ein hanimeiddiad Raving River Buddies a chwrdd â chimwch yr afon sy’n gwirioni ar chwaraeon, ein heog benyw a thad-cu o gragen las berlog sydd â pheswch caeth a achoswyd gan lygredd o’r gorffennol, a’i ŵyr anarferol. Maent i gyd yn byw mewn afon yng Nghymru ble mae’r dŵr bellach wedi’i wella’n fawr ac yn dymuno ei gadw felly ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Bydd gennym lawer o gemau rhyngweithiol, felly gellwch gael hwyl wrth ichi ddod i wybod am amgylchedd dŵr Cymru. Ymwelwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn y sioe.
I gael gwybod mwy am Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, ewch i’n gwefan:
http://www.environment-agency.gov.uk
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru |
|
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn eich gwahodd i’w Gardd Gefn.
I ddathlu ein 10fed pen-blwydd a Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth, rydym wedi trawsnewid darn bach o Sioe Frenhinol Cymru yn werddon bywyd gwyllt. Mae hon yn llawn dop o syniadau sut y gellwch ddenu bywyd gwyllt i’ch gardd gefn eich hun – o blanhigion toreithiog o neithdar a llysiau blasus i westai draenogod a thŷ gwydr wedi’i wneud â photeli plastig.
Bydd ein staff a’n gwirfoddolwyr wrth law i gyfnewid tips garddio bywyd gwyllt â chi ac i sgwrsio â chi am ddatblygiadau newydd cyffrous yn yr Ardd Fotaneg.
Dolen gwefan – www.gardenofwales.org.uk
Parciau Cenedlaethol Cymru – Cymerwch olwg o’r newydd!
Os ydych yn teimlo awydd rhoi cynnig ar rywbeth newydd yn y Sioe, fe allem fod â’r union brofiad y buoch yn chwilio amdano. Beth am weld y sioe orau ar y ddaear neu ymweld â chyngerdd? Neu efallai fod mynd am bryd o fwyd yn apelio mwy atoch? Mae gennym lu o brofiadau am ddim ar gynnig eleni ar gyfer pob oedran ac rydym ag eisiau eu rhannu â chi! Felly os ydych yn ffansïo eich tretio’ch hun i ychydig o amser ‘fi’ neu fod gennych ddiddordeb mewn cael gwefr naturiol, ymunwch â ni ym mhabell Parciau Cenedlaethol Cymru (yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad) i gael profiad unwaith mewn oes.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
I gael mwy o wybodaeth am Barciau Cenedlaethol Cymru, ewch i’n gwefannau…
Bwyd a Ffermio Organig |
|
Mae’r babell Bwyd a Ffermio Organig yn dod â llawer o sefydliadau a chwmnïau sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth i ffermwyr ac i ddefnyddwyr ynghylch bwyd a ffermio organig yng Nghymru at ei gilydd. Gall ymwelwyr fwynhau ein lletygarwch organig yn rhad ac am ddim tra byddant yn ymweld ag arddangosion Canolfan Organig Cymru a thri sefydliad ardystio - Cymdeithas y Pridd, Ffermwyr a Thyfwyr Organig ac Ardystiad Bwyd Cymreig o Ansawdd. Bydd ymgynghorwyr a chynghorwyr o ADAS Cymru a’r Gwasanaeth Ymgynghorol Organig wrth law a bydd staff o IBERS yn cynnig gwybodaeth am reoli tir glas yn organig. Ein siaradwr yn yr adeilad Addysg eleni fydd Dr. Liz Stockdale, a fydd yn trafod pwysigrwydd pridd. Bydd cynrychiolwyr o Graig Producers, Clwb Organig y Gwartheg Duon Cymreig a chwmnïau eraill sy’n prynu a marchnata cynnyrch organig yn bresennol hefyd. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Organig Cymru, (01970) 622248
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru |
Dewch i wybod mwy am ‘Hanesion Cudd’ Cymru drwy ymweld â stondin y Comisiwn Brenhinol i weld arddangosfeydd yn amlygu’i waith yn cofnodi ac arolygu treftadaeth Cymru. Mae arddangosfa eleni, sy’n dathlu Ceredigion (sir nawdd Sioe 2010), yn cynnwys delweddau o archif genedlaethol safleoedd archeolegol, adeiladau hanesyddol a thirweddau cyfareddol lu y sir.
Dewch draw i gyfarfod â’n staff.
Ddydd Llun a dydd Mercher, mae archeolegwyr y Comisiwn Brenhinol, Louise Barker a Susan Fielding, yn arddangos rhywfaint o’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer arolygu safleoedd archeolegol ac adeiladau.
Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth 20 Gorffennaf am 2 y pnawn ar gyfer sgwrs Dr Peter Wakelin ar ‘Celfyddyd heb Artistiaid – Delweddau o Archif y Comisiwn Brenhinol’.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Sioe.
Dolen â’r wefan: www.rcahmw.gov.uk
Cyfeiriad we Cymraeg: www.cbhc.gov.uk
RSPB Cymru
Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, sy’n codi llais dros adar a bywyd gwyllt, gan fynd i’r afael â’r problemau sy’n bygwth ein hamgylchedd. Ymunwch â ni yn ein stondin yn yr Ardal Cefn Gwlad i ddod i wybod mwy am adar a bywyd gwyllt yng Nghymru. Sgwrsiwch â’n tîm ymgynghorol neu porwch drwy’r anrhegion yn ein siop. Mae’r Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar (RSPB) yn elusen gofrestredig: Cymru a Lloegr rhif 207076, Yr Alban rhif SC037654
Ymddiriedolaeth Natur Cymru | |
Mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru thema forol gyffrous ar eu stondin eleni, byddant yn codi pwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd morol prydferth, yn arbennig o berthnasol yn unol â Deddf y Môr a’r angen i sicrhau bod gennym gamau cyflym mewn perthynas â deddfwriaeth er mwyn inni allu diogelu ein morlin ryfeddol. Trwy gydol yr wythnos byddwch yn gallu gweld y sioe Pwnsh a Jwdi ar y stondin, yn ogystal â’n Hychen yr Afon hardd. Mae’r stondin yn anelu at amlygu pwysigrwydd Gweledigaeth Moroedd Byw yr Ymddiriedolaethau Natur ble mae bywyd gwyllt y môr yn ffynnu, o ddyfnderoedd y cefnfor i ddyfroedd bas yr arfordir.
Manylion Cysylltu: Zoë Ellams, 01874 625 708 e-bost: zellams@brecknockwildlifetrust.org.uk
top printiwch




