Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Ardal Gofal Cefn Gwlad

Ardal Gofal Cefn Gwlad

Mae’r Ardal Gofal Cefn Gwlad yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru


Dylai ffermwyr sy’n ymweld â Sioe Frenhinol Cymru ac yn chwilio am wybodaeth neu gyngor ar faterion a allai fod yn dyngedfennol i’w cynlluniau busnes yn y dyfodol, yn arbennig os ydynt yn ymwneud â’r amgylchedd, ymweld â’r ardal Gofal Cefn Gwlad ar faes y sioe.  Yn un o adrannau mwyaf diddorol ac addysgiadol y Sioe, fe’i crëwyd yn 1990 fel estyniad i’r ardal Gweithgareddau Gwledig ac roedd yn ganlyniad rhesymegol i’r ymwybyddiaeth gyhoeddus gynyddol o warchodaeth natur a bywyd gwyllt.

Yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, wrth i’r term amaeth-amgylchedd ddod yn ymadrodd cyfarwydd yn yr eirfa ffermio, felly hefyd y mae’r ardal wedi ehangu a datblygu hyd nes ei bod yn awr yn nodwedd bwysig ar y Sioe, nid yn unig fel atyniad i ymwelwyr teuluol ond hefyd fel ffynhonnell wybodaeth gynhwysfawr i ffermwyr sy’n warcheidwaid cefn gwlad.

Mae’r rheini sy’n dymuno dod i wybod mwy am, er enghraifft, ynni adnewyddadwy, y newid yn yr hinsawdd, ffermio organig, y cynllun amaeth-amgylchedd hollgynhwysol newydd, Glastir, neu Cyswllt Ffermio, y mae pob un ohonynt yn hanfodol bwysig i ffermwyr, yn cael eu trin gan sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn yr adran Gofal Cefn Gwlad.  O ran ffermwyr mae yna’r fantais ychwanegol eleni fod stondin Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfagos i’r ardal hefyd.

Mae yna sefydliadau hefyd sy’n rhoi lle amlwg i dreftadaeth, yr amgylchedd a hamdden, ac mae’r Pentref Chwaraeon a’r ardal Gweithgareddau Gwledig cyfagos, hoff atyniadau i ymwelwyr teuluol ers y 1970’au, yn gwneud hon yn gyrchfan boblogaidd ar faes y sioe na ddylid ei methu.
Ymhlith y sefydliadau sy’n bresennol yn yr ardal yn Sioe eleni mae: 

 

ADAS

 

Yn Sioe eleni bydd ADAS yn rhoi lle amlwg i systemau ynni amgen sy’n addas i fusnesau fferm eu hystyried. Gyda chyflwyniad Tariffau Cyflenwi Trydan (FITs) a’r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI) mae gan ffermwyr y cyfle i edrych ar amrywiol adnoddau fferm a allai alluogi mesurau creu trydan neu arbed ynni y gellir eu defnyddio o fewn eu busnesau fferm.

Gall hyn helpu i leihau allyriadau carbon yn ogystal â chreu ffynhonnell incwm werthfawr i’r busnes fferm.  Gall cyngor technegol ar ynni amgen yn ogystal ag amrywiaeth eang o’r prif faterion sy’n ymwneud â ffermio, o fioamrywiaeth i wasanaethau rheoli busnes i gynorthwyo ffermwyr blaengar heddiw, gael eu trafod gyda chynghorwyr ADAS ar y stondin.

 

Dyfrffyrdd Prydain

Mae Dyfrffyrdd Prydain yn rheoli pedair o’r prif gamlasau yng Nghymru – camlas bictiwrésg Trefaldwyn, camlas ddiarffordd Sir Fynwy a Brycheiniog, camlas dawel Abertawe a chamlas brysur Llangollen. Mae dyfrffyrdd Cymru yn cyfrannu dros £30m i’r economi bob blwyddyn, gan ddenu wyth miliwn o ymwelwyr.

Ymwelwch â’r stondin i gyfarfod y tîm a chanfod yn uniongyrchol sut y maent yn datgloi potensial ac yn diogelu eu treftadaeth werthfawr.

 

Canolfan Hinsawdd Cymru (CHC)/Wales Climate Centre

Gyda manylion y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI) ar fin dyfod ac i fod i’w lansio’r haf hwn ac ar ôl cyflwyno’r Tariffau Cyflenwi Trydan (FITs) y llynedd, bydd Canolfan Hinsawdd Cymru yn canolbwyntio ar dechnolegau ynni adnewyddadwy.  Bydd gwybodaeth ar gael am y gwahanol dechnolegau a’r cyfleoedd ariannu i ffermwyr Cymru drwy ddwy fenter y Llywodraeth (RHI a FITs). Bydd arbenigwyr ar gael yn y stondin i ateb unrhyw gwestiynau. I gael mwy o wybodaeth ymwelwch â’n gwefan www.climate-wales.org.uk neu cysylltwch â ni ar 01248 383689. 

Canolfan Defnydd Tir Amgen (CALU)

Mae mwy o ffermwyr yn elwa ar estyn allan i gynhyrchu ffrwythau a llysiau a gyda chynhyrchu bwyd lleol yn dod yn fwyfwy pwysig a phoblogaidd, dyma’r amser delfrydol i gychwyn ar y tyfu.  Yn amlwg, mae llawer o gwestiynau sydd ag angen eu hateb cyn neidio i mewn i fenter newydd, a gall CALU helpu i ddarparu atebion i lawer ohonynt.  Cyngor technegol ar agweddau ymarferol cynhyrchu, ynghyd â gwybodaeth hollbwysig am feintiau tebygol yr elw a phroblemau posibl. 

Drwy Cyswllt Ffermio, mae yna amrediad eang o gymorth ar gael i ffermwyr sy’n ystyried arallgyfeirio ac mae gwybodaeth lawn am yr opsiynau hyn i’w chael ar stondin CALU.

  

Cylchgrawn Energy Now

Yn dilyn ymddangosiad cyntaf llwyddiannus iawn y llynedd mae ardal lawer mwy wedi’i neilltuo i Ynni Adnewyddadwy ar y fferm eleni.  Fe’i trefnir eto gan gyhoeddwyr Energy Now a bydd nifer o Gwmnïau’n bresennol i drafod technolegau a chyfleoedd i ffermwyr a thirfeddianwyr.  Wedi’u cynnwys fydd datblygiadau yn y sector ynni adnewyddadwy yn cynnwys gwynt, hydro, solar, biomas biodanwyddau, gan roi cyfarwyddyd ymarferol ar gynhyrchu eich ynni eich hun.  Bydd cyflwyniadau bob diwrnod o’r sioe

 

Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG)

Bydd gan FWAG Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am Glastir ar eu stondin.   Gall ffermwyr sydd wedi cyflwyno ceisiadau’n barod fod ag angen cymorth gyda’u paratoadau ar gyfer cyfweliad yng ngoleuni argymhellion Panel Adolygu Glastir a dderbyniwyd gan y Cynulliad neu gyda’u cyflwyniad ACRES.  Gall ffermwyr a fynegodd ddiddordeb mewn Glastir ar Ffurflen Taliad Sengl eleni fod â diddordeb yn y gwasanaeth asesu Glastir y mae FWAG Cymru yn ei gynnig yn barod ar gyfer cwblhau eu ffurflenni cais.

Bydd FWAG Cymru yn canolbwyntio ar rai o’r opsiynau sydd ar gael dan Glastir sy’n ennill pwyntiau ar gyfer mynediad, gydag arddangosiad o’r gofynion ar gyfer coridor bywyd gwyllt.

Bydd enillwyr cystadleuaeth Cadwraeth Fferm Cornchwiglen Arian FWAG Cymru – Y Rhwydwaith Cenedlaethol yn derbyn eu gwobrau. Mae’r gwobrau’n hyrwyddo’r arfer gorau amgylcheddol yn y sector ffermio masnachol, gyda chynigion gan ffermwyr ar draws Cymru. Bu’r gystadleuaeth ar fynd am fwy na 30 mlynedd ac fe’i cydnabyddir fel y wobr ffermio-cadwraeth fwyaf clodfawr, sy’n amlygu’r gwaith amgylcheddol pwysig y mae ffermwyr yn ei wneud, i gynulleidfa eang. 

 

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru


Cerflunio a ysbrydolwyd gan natur Cymru yw thema arddangosfa Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru eleni. Ar wahân i fod ag arddangosfeydd blodau syfrdanol o hardd, mae gan yr Ardd fferm weithredol organig fasnachol 400 erw hefyd, a adwaenir fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.  Yn gartref i dros 1000 o rywogaethau cofnodedig, mae Waun Las yn frodwaith o weirgloddiau a reolir yn draddodiadol, porfeydd, dolydd ydau gwanwyn, coedlannau a choetir hynafol, yn cael eu pori gan fridiau brodorol Cymreig megis defaid Llanwenog a Llŷn a gwartheg Duon Cymreig. Mae’n dangos sut y gall ffermio a bywyd gwyllt gydfodoli’n gynaliadwy.

Gyda chymorth Cyngor Cefn Gwlad Cymru, mae rhwydwaith o lwybrau troed da eu harwyddion a’u dehongliad yn caniatáu i ymwelwyr â’r Ardd grwydro a chwilota’r Warchodfa Natur Genedlaethol. Maent yn helpu artistiaid i daro ar syniadau gwych hefyd. Byddwn yn dangos sut y mae planhigion, anifeiliaid a da byw Cymreig yn dylanwadu ar rai o brif artistiaid a chrefftwyr Cymru, ac yn trafod rhinweddau ffermio ar gyfer bywyd gwyllt.   

Canolfan Organig Cymru

Mae’r babell Bwyd a Ffermio Organig yn arhosfan hanfodol i gynhyrchwyr gyda diddordeb mewn pethau organig. I’r rheini sydd eisoes yn organig a’r rheini sy’n meddwl am newid, mae’n gyfle i gael gwybod am y datblygiadau polisi a’r technegau rheoli diweddaraf. Bydd staff rhaglen Datblygu Organig Cyswllt Ffermio ar gael i gynnig cefnogaeth a chymorth technegol. Mae’r Cynllun Ffermio Organig wedi’i ddisodli gan Glastir fel cyfrwng cymorth ariannol i ffermio organig.  Cynrychiolwyd y sector organig ar grŵp adolygu Glastir a gall ffermwyr drafod y canlyniadau tra byddant yn manteisio ar y lletygarwch organig yn y babell. Mae ffermwyr sy’n meddwl am ba un a fyddai technegau organig yn ddefnyddiol iddynt hwy yn gallu gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig (OCIS), sydd am ddim, a bydd cynghorwyr ar gael trwy gydol y Sioe.

Yr arddangoswyr sydd yn ein pabell fawr eleni yw:


Farming Connect
Organic Centre Wales (OCW)
Better Organic Business Links (BOBL)
Farming and Countryside Education
(FACE)
Organic Conversion Information Service
(OCIS)
Organic Farmers and Growers
Soil Association Certification
Quality Welsh Food Certification
WRAP Cymru
Food Ethics Council
Weir - Total Supply Chain Sustainability
Why I Love Organic


Comisiwn Brenhinol


Henebion Cymu

Ymwelwch â stondin y Comisiwn Brenhinol i weld arddangosfeydd yn amlygu ei waith yn cofnodi ac yn arolygu treftadaeth Cymru. Arddangosfa o safleoedd archeolegol, adeiladau a thirweddau hanesyddol cyfareddol o’n harchif genedlaethol.

Gall ymwelwyr gael gwybod mwy hefyd am y sefydliad a chyfarfod y staff sy’n ymddangos ar Hidden Histories. Bydd archeolegwyr ar gael i ateb eich cwestiynau a dangos y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer arolygu safleoedd ac adeiladau archeolegol, yn cynnwys ffermdai.

Y Comisiwn Brenhinol yw’r corff ymchwilio a’r archif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae iddo’r rôl arweiniol wrth sicrhau bod treftadaeth archeolegol, adeiledig a morwrol Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol a’i ddeall, ac mae’n ceisio hyrwyddo gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth hon yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

RSPB Cymru


Bydd RSPB Cymru yn dathlu ei Ganmlwyddiant yn y Sioe.  Mewn ymateb i bryderon ynghylch gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, mae’r RSPB wedi comisiynu i fodel 3D o fferm ucheldir draddodiadol gael ei greu.  Bydd hwn yn gweithio fel erfyn cynghori i ddenu sylw ffermwyr ac fel testun siarad â nhw.  Bydd y model yn canolbwyntio ar dir ffermio allweddol, cadwraeth ar y math yma o dir a rhywogaethau allweddol i ganolbwyntio arnynt.


Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGY)

Bydd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) Ewropeaidd yn gofyn am weithredu ar y cyd mewn dalgylchoedd i wella ansawdd dŵr a bioamrywiaeth ddyfrol. Mae llawer o afonydd a llynnoedd yn y Deyrnas Unedig yn methu â chwrdd â’r safonau a fynnir dan yr WFD oherwydd cyfoethogiad â ffosfforws (P), sy’n achosi ewtroffigedd. Mae amaethyddiaeth yn un o nifer o ffynonellau P sy’n mynd i mewn i afonydd. Mae dwysáu amaethyddol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf wedi arwain at ddibyniaeth drom ar fwydydd a gwrteithiau ac ynddynt lawer o P tra hydawdd. Mae defnydd helaeth o’r mewnforion P hyn wedi achosi cynnydd mawr yn lefelau P priddoedd, sydd yn ei dro wedi codi crynodiadau P mewn dŵr ffo o dir sy’n mynd i mewn i afonydd. Bydd arddangosfa SENRGY yn dangos sut y mae afonydd wedi’u cyfoethogi gymaint â ffosfforws a pha gamau y gall ffermwyr a’r cyhoedd eu cymryd i helpu i wella ansawdd ac iechyd dŵr.

 

Ty Mawr

Mae Tŷ Mawr wedi bod â stondin boblogaidd am flynyddoedd lawer yn dangos cynhyrchion defnyddiau adeiladu traddodiadol ac ecolegol a’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig.  Y gobaith yw y byddant yn ehangu eu hardal eleni i gynnwys sgiliau a ddysgwyd yn eu cyrsiau hyfforddi.

Yn yr ardal hon eleni hefyd fydd CADW, Ymddiriedolaethau Natur Cymru (WTW), Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Ymddiriedolaeth Goroesiad Adar Cân, Aeolus, Ymddiriedolaeth y Tywysog, ac Ymddiriedolaeth Adaryddiaeth Prydain, Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd, Codi Waliau Sych a Phlygu Gwrychoedd.

Peidiwch â cholli’r cyfle i ymweld â’r Ardal Gofal Cefn Gwlad i weld beth sydd ar gynnig i ddatblygu eich busnes ffermio.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun