Lletygarwch Corfforaethol yn y Sioe
Y Pafiliwn Lletygarwch
Mae croeso cynnes yn eich aros ym Mhafiliwn Lletygarwch Brenhinol Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru 2010. I’r rheini sy’n dymuno mwynhau diwrnod arbennig yn y Sioe, pa un ai’n dathlu achlysur arbennig gyda theulu neu gyfeillion neu’n croesawu cleientiaid, byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y sylw gorau gan ein tîm profiadol.
Mae’r Pafiliwn yn cynnig gwerddon o foethusrwydd a thawelwch ynghanol y digwyddiad clodfawr yma, ac mae’n ganolfan ddelfrydol i chi ei defnyddio yn ystod y dydd; mwynhewch becyn pryd o fwyd a lluniaeth hyfryd mewn awyrgylch hamddenol a lleoliad atyniadol a gwnewch eich ymweliad â’r Sioe yn brofiad gwirioneddol gofiadwy.
![]() | ![]() |
| Cinio yn y Pafiliwn Lletygarwch mewn awyrgylch hamddenol | Golygfa eang o brysurdeb y Prif Gylch |
Y Pecyn
Byddai Pecyn Lletygarwch corfforaethol yn cynnwys:-
Bwrdd/Bord wedi’i gadw i chi yn unig ei ddefnyddio trwy gydol y dydd rhwng 9.30am a 5pm
Tocyn Mynediad i’r Sioe a Phàs Diwrnod i’r Pafiliwn Lletygarwch
Coffi Bore a Theisennau Danaidd Bach ar ôl cyrraedd
Derbyniad Canapés a Siampaen
Cinio pedwar cwrs yn cynnwys gwin
Te ~ Coffi ~ Mints
Te Prynhawn
Bar Agored Hollgynhwysol rhwng 12.00 canol dydd a 3.00 pm
Addurniad Blodau
Golygfa o’r Prif Gylch
Rhaglen y Sioe a Chynllun o Faes y Sioe Am Ddim
Lefel ragorol o Ofal a Gwasanaeth Cwsmeriaid gan Stiwardiaid y Sioe
a’r Tîm Arlwyo
£140.00 + TAW y pen
neu fel arall, manteisiwch ar ein pris gostyngol o
£1200 & TAW y bwrdd/ford o 10
Mae’r cyfleuster ar gael hefyd ar gyfer archebion min nos preifat
Mae’r Swît Lletygarwch ar y llawr cyntaf yn fan cyfarfod rhagorol i’w logi yn ystod y dydd neu gyda’r nos ac mae iddo olygfa o’r Prif Gylch, ble ceir arddangosfeydd stoc ac adloniant o safon byd.
Neu fel arall, gellir archebu bwrdd/bord ym Mwyty atyniadol y Prif Gylch, sy’n gweithredu fel rhan o’r Pafiliwn

Cysylltwch â’r Gymdeithas am fwy o wybodaeth rhwng 9am a 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener os gwelwch yn dda:
Mrs Ann Bufton or Mrs Audrey Lewis
Ffôn: +44 (0)1982 554410/554419
Ffacs: +44 (0)1982 553563
E-bost: Lletygarwch@rwas.co.uk
top printiwch

