Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Lletygarwch Corfforaethol yn y Sioe

Lletygarwch Corfforaethol yn y Sioe

Y Pafiliwn Lletygarwch


Bydd y Gymdeithas yn cynnig Lletygarwch Corfforaethol unwaith eto ar gyfer sioe 2008, a bydd ar gael i gwmnïau neu unigolion sy’n dymuno elwa ar y cyfle hwn i ddiddanu eu gwesteion, eu cleientiaid neu eu cwsmeriaid.

Gellir llogi’r Pafiliwn ar gyfer brecwastau, ciniawau neu giniawau gyda’r nos preifat neu ar gyfer cyfarfodydd a seminarau gyda’r nos. Mae’r cyfleuster hwn yn cynnig un o’r golygfeydd gorau o weithgareddau Prif Gylch Maes y Sioe.

Mae’r Pafiliwn yn darparu, ar y llawr gwaelod, estyniad pabell fawr, gyda byrddau ar gyfer hyd at ddeuddeg parti o ddeg.

Gall llawr cyntaf yr adeilad hwn, gyda’i ystafell gotiau a chyfleusterau cegin ei hun, ddarparu ar gyfer hanner cant o bobl yn eistedd i lawr o amgylch byrddau.

Bydd y Pafiliwn Lletygarwch ar agor eleni ar gyfer lletygarwch corfforaethol rhwng 9.30am a 5.30pm.

 Lunch at the Hospitality Pavilion in relaxed surroundings. A panoramic view of Main Ring activities.
Cinio yn y Pafiliwn Lletygarwch mewn awyrgylch hamddenolGolygfa eang o brysurdeb y Prif Gylch


Hospitality

Cysylltwch ag Audrey Lewis am fwy o fanylion:

Audrey Lewis
Ffôn: +44 (0)1982 554410
Ffacs: +44 (0)1982 553563

E-bost: Lletygarwch@rwas.co.uk

 

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun