Ymwelwyr Tramor
Gall 6,500,000 o bobl ddim a bod yn anghywir!
Ie …chwe miliwn a hanner o bobl …dyna faint o bobl sydd wedi ymweld â Sioe Frenhinol Cymru ers iddi symud i Lanelwedd, Llanfair ym Muallt, yn barhaol ym 1963, gan wneud y sioe ymysg yr atyniadau mwyaf poblogaidd o’i fath yng Nghymru a thu hwnt!Yes …six and a half million people! …that's how many visitors have been to the Royal Welsh Show since it moved permanently to Llanelwedd, Builth Wells, in 1963, making the show the number one attraction of its kind in Wales and beyond!

Mae’r 19 sioe diwethaf wedi denu dros 200,000 o ymwelwyr yr un, yn cynnwys y nifer fwyaf erioed, sef 240,140 ym 2006. Mae cofnod y Sioe Frenhinol yn mynd y tu hwnt i rifau mynychu mewn sioeau amaethyddol eraill ledled Prydain.
Felly pam na wnewch chi ymuno â’r dorf a threulio diwrnod, neu ddau – mwy efallai – yn y Sioe Orau’n y Byd o bosibl? Dewch â’r teulu i’r man cyfarfod rhyngwladol hwn i bobl o’r wlad ac o’r dref, profiad unigryw sy’n cael ei fwynhau gan ymwelwyr cartref ac o dramor bob mis Gorffennaf.
Y gorau!
Mae maes Sioe Frenhinol Cymru yn un o’r goreuon yn y byd. Wedi ei leoli mewn ardal hardd o gefn gwlad, mae’r ffenest siop hon ar gyfer ffermio a chynnyrch bwyd Cymru yn cynrychioli buddsoddiad o £8.5m, gan gynnwys canolfan arddangos celf gwerth £2.3m o’r radd flaenaf lle y gall ymwelwyr weld da byw fferm mewn man diogel a chyfforddus. Mae popeth yn Sioe Frenhinol Cymru wedi ei gynllunio ar gyfer ymwelwyr. Mae eisteddle'r Prif Gylch yn eistedd 4000 o bobl; mae 'ma dai bwyta a bariau, ardaloedd hamdden, amrywiaeth anhygoel o arddangosfeydd, a rhaglen 12 awr o adloniant. Unwaith y byddwch y tu mewn i faes y sioe, gallwch gymryd rhan mewn diwrnod bythgofiadwy o hamdden a phleser parhaus.
Amaethyddiaeth
Os mai amaethyddiaeth sy’n mynd â’ch bryd a’ch bod am weld arddangosfa ragorol o rai o dda byw pedigri a masnachol y wlad, mae gennych y wledd o 8000 o anifeiliaid fferm yn cystadlu am yr anrhydeddau mwyaf yn y sioe yn y cylch arddangos, yr arddangosfa fwyaf o fridiau defaid yn y byd a’r pasiant heb ei ail o ferlod a chobiau Cymreig sydd bob amser yn denu cynulleidfa fyd-eang.
Gallwch ddysgu popeth am ddiwydiannau amaethyddol ac ategol Cymru – sut y caiff y tir ei ddefnyddio, glaswellt a chnydau, fforestydd a chynhyrchu pren, peirianwaith fferm, cerbydau ac offer, cneifio, cwn defaid, cadwraeth a’r amgylchedd, addysg, twrisitiaeth, gweithgareddau gwledig, chwaraeon gwledig, blodau, ffrwythau a llysiau, cadw gwenyn, dofednod, milfeddygfa anifeiliaid anwes, gwaith haearn addurnol a’r holl agweddau amrywiol eraill ar ffermio a chefn gwlad.
Bwyd a diod
ac os yw bwyd a diod at eich dant yna ymwelwch â Neuadd Fwyd y Sioe Frenhinol. Yno gallwch weld a samplu rhai o flasau Cymru – cigoedd Cymru, cynnyrch llaeth gan gynnwys llawer o gaws enwog Cymru, gwinoedd, danteithion, ffrwythau, jamiau, mêl a chynnyrch eraill y tir a’r môr. Maent i gyd ar gael yn Sioe Frenhinol Cymru.
Siopau a stondinau masnach
Ceir llawer o gynnyrch dengar i’w prynu ymysg y 1000 o siopau a stondinau masnach ar hyd rhodfeydd maes y sioe – crefftau llaw, gemwaith, hen bethau, celfyddyd gain a nwyddau o bob math o ddillad i geir, neu ferfâu i esgidiau glaw.
Mae’r Sioe, a sefydlwyd ym 1904, yn rhoi croeso arbennig o gynnes a chroesawgar yn ei Bafiliwn Rhyngwladol i ymwelwyr o bedwar ban byd.
top printiwch