Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Cneifio > Cneifio

Cneifio

Uchafbwynt diwrnod olaf y cystadlaethau heb unrhyw amheuaeth oedd y prawf blynyddol sy’n digwydd rhwng Cymru a Seland Newydd.  Yn rhyfeddol, roedd pobl yn y dyrfa yn dal i fod â’r egni i roi i’r ornest ei hawyrgylch gwyllt arferol, er gwaethaf ymdrechion y tri diwrnod blaenorol.


Fideo byr o’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn ystod Pencampwriaethau Cneifio’r Byd 2010

Rhannodd y prawf yn ddwy frwydr breifat wrth i Gareth Daniel o Gymru rasio David Fagan o Seland Newydd ac wrth i’r aelod arall o dîm Cymru, Hywel Jones, lynu at y pencampwr byd Cam Ferguson.  Enillodd y ddau o Seland Newydd eu rasys o eiliadau yn unig ac ennill y prawf hefyd, er mai dim ond un pwynt clir oedd ynddi.  Heblaw hynny, Gareth Daniel oedd â’r pwyntiau unigol isaf yn y prawf, gan roi iddo’r diweddglo perffaith i wythnos lwyddiannus iawn.

Cyn y prawf canwyd anthemau cenedlaethol y ddwy wlad.

 

Yn y dosbarthiadau cneifio â gwellau traddodiadol – ble mae’r cystadleuwyr yn ymfalchïo cymaint yn eu gwaith fel eu bod yn sefyll wrth ochr eu defaid ar y llwyfan ar gyfer y beirniadu – enillodd y Cymry Emlyn Roberts ar y mamogiaid a Gwylim Edwards ar yr ŵyn.

Enillodd Brendan Graham o Weriniaeth Iwerddon y Bencampwriaeth Cneifio Ŵyn i rai Iau tra bod y wobr am y pwyntiau corlan gorau wedi mynd i’r cystadleuydd lleol Robbie Herdman.  Roedd yr ymgeiswyr yn y dosbarth yn nodweddiadol o gryf, gyda bron 60 o gystadleuwyr yn brwydro i gyrraedd y 18 uchaf ar gyfer y rownd gynderfynol.

Rasiodd Jack Robinson a John Thomas am yr anrhydeddau cyflymder yn rownd derfynol y Bencampwriaeth Cneifio Ŵyn Ganolradd, gyda John yn ennill sawl eiliad ar ei oen olaf ac yn gorffen yn gyntaf.  O’r herwydd fodd bynnag, aberthodd y ddau ormod o bwyntiau ansawdd ac enillodd Ifan Jones y bencampwriaeth.  Steve Rowberry, Pencampwr Iau y llynedd, oedd yn ail ac iddo ef hefyd y dyfarnwyd y wobr am y gorlan orau.

Enillwyd rownd derfynol CFfI Cymru gan Gaerfyrddin, gyda Gwent yn ail.  Roedd y timau o ddau (dan 21 a dan 26 mlwydd oed) wedi mynd drwodd yn eu ralïau sirol yn gynharach yn yr haf.

Roedd rownd derfynol olaf Sioe Frenhinol Cymru 2010 ar gyfer Pencampwriaeth Cylchdaith Iau Anrhydeddus Gwmni’r Gwlanwyr.  Aeth y safle cyntaf i Graham Davidson, gan ennill £350 iddo.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun